Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTBALYDD: EHIF. 4,j- EBEILL, 1870. [CYF. IV. 3toth<rte, &r. "ELN GENEDIGOL WLAD." LLWNC-DESTUN GWYL DEWI 1870, TN SEBASTOPOL. Er ein bod yn bresenol yn byw yn ein mabwysiedig wlad yn y pellder deheuol hwn—fhai yn nghanol eu gwala a'u digonolrwydd o bob ben- dithion tymorol, ac yn troi mewn cylchoedd uchel a swyddi o bwys- igrwydd yn y wiadwriaeth ; rhai yn y senedd-dŷ yn gwneud cyfreith- iau, ereill yn y llys barnol yn eu gweinyddu ; rhai yn berchen cyfoeth ac etifeddiaelJ;, • -1 eang, a thrwy hyny eu symudiadau yn bwysig a'ü dylanwad yn fawr a dyddorol; etto nid oes neb yn rhy falch ac uchelfrydig i gydnabod Cymru, eu genedigol wlad, a dod i ddathlu clodforedd Dewi Sant, ac anrhydeddu coffadwriaeth enw yr hwn sydd â'i santeiddiol edyn yn gwarchod a chysgodi ein gwlad, a noddi ac amddiffyn ein cenedl. Ein genedigol wlad—gwlad yr hen Cimmerians y soniai Homer am danynt agos dair mil o fiynyddoedd yn oi; gwlad y dewrion hyny a yrasant Cssar ar ffo; a buasent, ond odid, yn gwneud syndod i Alexander, a'i yru yntau hefyd ar ffo, pe buasai yn digwydd talu ymweliad cyffelyb a'u gororau, fel na buasai raid i'r dewrddyn hwnw lefain am fyd arall i'w orchfygu. Gwlad Derwyddon a beirdd, gwlad y delyn a'r alawon swynol a'u cathlau seinber,— " Môr o gan yw Cymru 'gyd." Eelly yr ydym yn'ddisgynyddion o'r hen foneyff Celtaidd hwnw, pa un oedd yn irdwf á tbirf, ac yn ei ogoniant, pan nad oedd y galluoedd presenol yn y milrith (embryo). Bu amser pan nad oedd neb ond canedl y Cymry yn preswylio drwy holl Loegr a Chymru, a breninoedd a thywysogion Cymreig yn eu llywodraethu, ac yn meddu eu cyfreithiau a'r gvsreinyddiad o hon- ynt yn eu hiaith eu hunain—Cymry oedd seneddwyr, dadleuwyr, a barnwyr holl Brydain Fawr. Y pryd hyn ynawibiai yr arth a'r baedd