Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: EHIF. 4.] EBEILL, 1869. [CTP. III. DAEABGEYNFAAU. (Parìiad o tuclal. 58.) Y mae y gwastadedd marianol sydd yn ddyledus am ei ffurflad i gludlwythi y Mississippi yn cynwys 31,200 o filldiroedd ysgwar o arwynebedd, ac yn dair mil o filldiroecld o amgjdchedd. A dywedir fod y Ganges yn trosglWyddo yn ei dyfroedd 6,368,077,440 o droed- f edcìi ysgwar, neu cubaidd, o fater daearol yn flynyddoí. Y mae y fath res o rifnodan a hyn yn ormod i ff urfio meddwl cywir am y crug- lwyth, oblegid nid yn gyffredin y defnyddiwn biliwn a miliwn i gyfrif amgen nag i wneud i fynu swm rhifyddol 'n awr ac eilwaith; ac, yn sicr, mae crybwyll biliwn yn llawer hawddach nac amgyffred ei gynwysiad; ac i ddwyn y swm yn agosach i amgyffred y cyffredin, y mae daearegwyr deallus yn barnu pwysau malurion trosglwyddedig blynyddol yr afon 'grybwylledig yn 1,022,000,000 o dunelli. Ac i wneud y swm yn eglurach etto, bwriwn fod trigolion Ballarat yn anfon i lawr ar hyd y ffordd haiarn i Hobson's Bay wyth a deugain o agerbeiriannau yn llusgo ugain o gerbydau yr un, a phob cerbyd yn cynwys pum tunell o laid sych, a hyny bob dydd, byddai yn ofynol iddynt barhau i anfon y swm dydcliol hwn heb gymeryd gwyliau Nadolig nac un dydd arall, oddigerth y Sabboth yn unig, i urphwyso, am saith cant o flynyddoedd; a pha un a fyddai Hobson's Bay wedi ei sychu i fynu, fel y sychir corsydd wrth wneuthur rheil- ffordd; a Ballarat a'i chwteri cyfoethog a'i chreigresi euraidd, wedi syrthio i fod yn waelod i rhyw lyn mawreddog, gan lyncu Burrum- beet a Learmonth iddo ei hun ar ol ei amddifadu o 1,022,000,000 o dunelli o'r arwynebedd presenol, nis gallwn ddirnad: ond hyn sydd ffaith, fod y Ganges yn trosglwyddo yn flynyddol y swm aruthrol hwn; ac y mae India yn drigle dynoliaeth yn bresenol, er cymaint y mae y Ganges Indus, a'r Burrampooter, ac afonydd ercill wedi ei drosglwyddo o arwynebedd ei thir i'r môr yn ystod eu treiglv. iadau. Ond er ei bod wedi gwrthsefyll yr oll hyd yn bresenol, y mae yr elfenau sydd yn dryllio, malurio, treulio, a throsglwyddo ei chyfan- soddiad yn y modd hyny yn barhaus yn dweyd yn benderfyno] "Ymaith â chwi;" ac y mae ei Himalayas a'i Ghantz yn gorfocí ufuddhau, er yn gyndyn ac yn ddygn iawn, A chyfeiriwn ein golygon