Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y H AÜ8TRALYDD: (ÍBlcijgrâtoit jEijíoL RHIF. 8.] CHWEFROR, 1867. [CYF. I. Swettotati, &*. ANERCHIAD GAN Y PARCH. H. REES. Traddodwyd yr anerchiad canlynol gan y Parcb. H. Rees, Liverpool, ar •efydliad y Parch. William James, B.A., i fod yn weinidog eglwysi y Trefnydüion Calflnaidd yn Manchester a Salford. Mae priodas fel hyn yn debyg i briodas gwr a gwraig; ni ddylai y naill na'r llall edrych arno ond yn beth pwysig, a ddylai y naill a'r llall wneud eu dyledswydd tuag at eu gilydd. Mae yn rhyfedd na fyddai mwy o anhapusrwydd yn y byd drwy briodasau nag y sydd, am fod cynifer yn myned i'r cysylltiad hwnw yn anystyriol; ac y mae hyny i'w briodoli i ieuengctyd y pleidiau, a bod y cysylltiadyn cael ei ffuríio gyda llawer iawn o wamalrwydd. Y mae yn bossibl i eglwys neidio at wr ieuangc fel gwenidog iddi am ei bod wedi cael ei phlesio ynddo wrth ei glywed yn pregethu unwaith neu ddwy, heb ymofyn beth yw ef o ran ei demper a'i synwyr fel dyn, a'i greíydd fel Crist- ion, a'i lafur gyda golwg ar y weinidogaeth; ac a oedd yn- ddo ddefnyddioldeb cyffredinol. Ond yr ydych chwi wedi dyfod trwy hyny; ac fe allwn i feddwl íbd genych chwi achos i fod yn ddiolehgar, ac nid oes dim rheswm i'r cys- sylltiad droi yn fethiant os bydd i'r naill a'r llall o honoch droi yn anffyddlawn i'ch gilydd. I atal hyn, meithrinwch a chadwch gariad at eich giîydd—" Y gwyr, cerwch eich gwragedd;" y wraig, hithau, edryched ar iddi barchu ei gwr. Gellid cymhwyso hyn at yr amgylchiad yma. Nid