Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE AUSTEALYDD: RHIF. 1.] GOEPHENAF, 1867. CYF. n. IAWN DDEFNYDDIO AMSER. (Traethawd Buddugol yn Eisteddfod Castlemaine, 1862.) Weth i ni edrych i mewn a chwilio i ansawdd a natnr rhai pethau, cawn ei bod yn foddion effeithiol i daflu goleuni a rhoddi eglurhad ar luaws o egwyddorion, ffeithiau a phethau ereül, tra er hyny yn aros eu hunainyn dywyll, aneglur, ac anesboniadwy. Mae hyn fel deddf neu egwyddor mewn natur ag y gellid ei chymhwyso at, a'i phriodoli i luaws o bethau; neu, dyma yw eu hegwyddor neu eu cymeriad; ac o'r cyfryw bethau, diau fod amser yn un o'r rhai penaf. Amser! Pa beth ydyw? Amser yw yr eglurydd perffeithiaf, y dinoethydd penaf, a'r esboniedydd mwýaf anffaeledig, ac eto yn aros ynddo ei hunan—yr anegluraf, y tywyllaf, a'r anhawddaf cael esboniad arno. Fe fu Uawer iawn yn y byd erioed o brophwydo a rhagfynegi, dychymygu ac esbonio, y f ath fèl y gallesid tybio ar y pryd mai gwirioneddol a sylweddol oedd neu a fyddai y cyfan oni bae i'r eglurydd perffaith hwn dreiglo yn mlaen gan broô yn am- gen, nad oedd yr oll ond gau a thwyllodrus; ac eto er gwneyd hyn, mae ef ei hunan yn aros yn gaddug tywyll nas gellir cW esboniad arno na darluniad o hono. Er holl gywreinwaith celfyddyd mewn paentio ac arlunio, mae hithau yn methu yma: ni feiddiodd yr en- wocaf o arlunwyr dynu darlun o amser, mae ef yn aros yn nn o'r pethau mwyaf annarluniadwy sydd mewn bod—^mae yr nyri oedd wedi diflanu, y dyfodol heb ymddangos, a'r presenol yn myned heîbio hyd yn nod pan yn son am ei ddaríunio, fel y fellten neu y seren wib yn ymddangos ac wedi hyny yn diflanu! Amser yw mesurydd pob peth, ac eto ei hun yn anfesurol. Mae yn datguddio dirgeledigaethau, ac er hyny yn para ei hun yn annatguddiádwy. Amser! Mae yn dyfod yn mlaen fel y llanw arafaf, ond ỳn cilio feí y ffrwd gyflymaf; yn rhoddi adsain i bleser, ond traed o blwm i boen; twyllodrus wenieithydd celwydd yw, ond gwirioneddol a phrofiadol gyfaill geirwiredd. Amser yw'r anrheithydd tîyfrẃysaf, ac wrth ymddangos i beidio cymeryd dim y mae yn yspeuio'y cwbl; ac ni ellir ei ddigoni hyd nes y dygo y byd oddîarnom ni, a'n dwyn ninau o'r byd:— " Yswr ein hoea—amser yw, Ehedydd gorhoyw ydyw?*