Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TR AUSTRALYDD: EHIF. 2.] AWST, 1867. CYF. H. ŵmtTgaìm, ŵc, IAWN DDEFNYDDIO AMSER. (Parhad o tudal. 6.) Y mae o bwys mawr, iawn ddefnyddio tymor ieuenetyd—y cyfnod pwysicaf, yr adeg werthfawrocaf, a'r cyfieusdra penaf yn oes dyn. Ymddengys yn bwysicaf pan yr edrychom arno yn ei gysylltiad â'r tymor blaenorol iddo, ac wrth ei gydmharu â'r rhai düynoL Yn y tymor blaenorol plentyn ydyw; mae ei bob peth yn sefyll rhyngddo a'r teulu gartref. Yn y cyfnod hwnw, ei fyd ef (fel y nodwyd eisoes) yw mynwes ei fam ac aelwyd y ty. Yn yr adeg- hon nid oes ganddo allu i ffurfio barn; nid yw ei amgyffred ond byr, na'i ddeall ond cyfyng. Mae cyfnod mebyd fel rhyw borthladd tawel; os cyfyd swell o rywle, mae y tad yn barod i sefyll rhwng y plentyn a'r ddrycin; ac os rhuthra tymhestl o ryw gyfeiriad araJl, Dydd y fam yn gysgod ac yn amddiffyn iddo—bydd y ddau fel angorion yn ei gadw rhag cael ei guro yn erbyn llawer o greigiau. profedigaethau, na'i yru ar lee shore temtasiynau. Ond dacw fis Mai ei ieuenctyd wedi dyfod: y mae yntau fel llong dan ei llawn hwyliau yn troi allan o'r porthladd; y mae yn rhaid iddo fyned, oblegid nid creadur i aros yn yr unman ydyw dyn ond creadur i fyned ar gynydd mewn corph a meddwl. Yn awr y mae yn wynebu ar gefnfor eang, yn dechreu ar fordaith bwysig: ei waith bellach. ydyw sefydlu ei hunan yn y byd. Yn y tymor blaenorol yr oedd o dan adäysg y tad a gofal y fam, ond yn awr rhaid iddo addysgu ei hun megis, a gofalu am dano ei hunan; o'r blaen ei rieni oedd yn ei amddifiyn rhag cael cam, ond bellach rhaid iddo amddiffyn a diogelu ei hunan neu ynte gymeryd y canlyniadau; yn y cyfnod blaénorol y rhieni i raddau mawr oedd yn gyfrifol am ei noll ym- ddygiadau, ond erbyn hyn bydd y cyfrifoldeb arno ef ei hunan; o'r bl^en y wialen oedd i'w lywodraethu, ond yn awr synwyr a chyd- wybod sydd i'w lywodraethu. Yn awr bydd temtasiynau a hudol- iaethau lawer yn dechreu ymrithio iddo ac ymosod arno, y rhai ni wyddai am danynt o'r blaen; a byddant fel y cenadau at Job gynt, y naill demtasiwn ar ol y llall yn dod yn drymach, a'r hudoliaethau yn eu hymosodiadau yn dod i ymdywallt fel rhuthrgyrchoedd. . Y mae yn awr yn adeg bwysig arno: mae ei dynged yn y dyfodol yn ymddibynu i raddau mawr iawn ar pa fodd y gweithreda yn yr