Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE AUSTEALYDD: EHIF. 4.] HYDEEF, 1867. [OYF. II. >&t. CABIAD BRAWDOL. Cabiad yw hanf od y Goruchaf ei hun: " Duw, cariad yw." Effeith- iau ei gariad ydynt y cysuron tymorol ac yshrydol y mae dynion yn eu mwynhau ar y ddaear. Cariad a barodd i Dduw feddwl meddyliau o hedd am hil syrthiedig Adda, ac anfon ei fab i'r byd i fod yn Waredwr digonol i bawb a gredant ynddo. Oni ddylem ni gan hyny garu Duw, "am iddo ef yn gyntaf ein caru ni:" ac y mae yr hwn sydd yn caru Duw, yn caru ei frawd hefyd. Cariad yw y nôd wrth ba un y mae y gwir Gristion i'w adnabod. " Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgybüon i mi ydych, os bydd genych gariad i'ch gilydd. Dyma fy ngorchymyn i, ar i chwi garu eich gilydd fel y cerais i chwi." Mae Cristionogion o dan rwymau i garu eu gilydd, am fod yr Arglwydd Iesu, eu brenin, wedi gorchy- myn iddynt wneud. Mae peidio a charu eu gilydd yn drosedd o'r gorchymyn dwyfol: " Dyma fy ngorchymyn i," medd Crist; hwn, uwchlaw pob un aralL. Mae yr Arglwydd Iesu fel pe bae am alw sylw neillduol at hwn ragor pob gorchymyn araÛ. Mewn man arall dywed, " Oorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eich gilydd." Galwodd Crist ef yn orchymyn newydd, er nad oedd dim yn newydd ynddo: yr hen orchymyn oedd, f el y dywed Ioan, " Yr hwn a gawsom o'r dechreuad;" ond rhoddwyd ef gan Grist mewn ffurf newydd, fel ag i alluogi ei ddisgyblion i'w gysylltu âg ef ei hun, eu Harglwydd a'u Meistr. Yr oedd Iesu Örist ar ymadael a'i ddisgybhon, a dychwelyd i'r nefoedd, pan lefarodd wrthynt y gorchymyn hwn: gwyddai eu bod ar gael eu gadael yn amddifaid mewn byd drwg, ac y byddai iddynt gael eu herhd a'u dirmygu yn mhob dull a modd gan eu gelynion; gwyddai hefyd y byddai cydymdeimlo â'u gilydd yn foddion i ysgafnhau eu dioddefìadau; am hyny gorchymynodd iddynt garu eu gilydd, a . dysgodd iddynt bwysigrwydd a gwerth cariad brawdol. T mae gènym annogaethau cryfion i garu ein gilydd. I. Oorehymyn ae esiampl Crist. öorchymyn Crist i ni garu hyd yn nod ein gelynion; nid fel ag i'w cefnogi yn eu gweithredoedd drwg, ond fel ag i faddeu iddynt y cam a wnaethant â ni. Ac os dylem garu ein gelynion, pa faint mwy ein brodyr a'n chwiorydd crefyddol? " Am hyny, tra yr ydym yn cael amser cyfadäas, Î4