Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: EHIF. 7.] IONAWE, 1868. [OYF. II. íiräálwta, &t. MARWEIDD-DRA YSBRYDOL. PEEGETH GAN Y PARCH. WILLIAM M. EVANS, BALLARAT. " Simon, ai cysgu yr wyt ti."—Màrc xiv. 37. Mae geiriau y testun wedi eu llefaru gan yr Arglwydd Iesu Grist, ac wedi eu cyfeirio ganddo at un o'i ganlynwyr ffyddlonaf, un o'i ddisgyblion anwylaf. Mae y geiriau wedi eu llefaru ar achlysur hynod o bwysig—adeg pan yr oedd dioddefiadau enaid y Gwar- edwr yn ymgodi gyda chyflymder—rhuthriadau yr ystoria ddi- weddaf yn dechreu curo yn ofnadwy arno. Ar ol sefydlu y swper santaidd i fod yn goffadwriaeth yn y dy- fodol o'i farwolaeth boenus, yr hon oedd yn fuan i gym'eryd lle, cymerodd yr Iesu ei ddisgyblion gydag ef i Fynydd yr Olew- wydd; ac ar eu gwaith yn ymdaith o'r oruwch-ystafell tua'r lle hwnw, mae yn dweyd wrthynt y rhwystrid hwynt oll y noswaith hòno o'i blegid Ef, ac yn galw eu sylw at broffwydoliaeth o'r Ysgrythyr oedd wedi ei llefaru yn gyfeiriol atr yr amgylchiad,— " Tarawaf y Bugail, a'r defaid a wasgerir." Ond yr oedd meddwl am y fath beth a hyny yn annyoddefol i Petr, ac y mae yn dweyd yn gadarn wrth ei Feistr, " Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, eto nì byddaf fi." Yr Iesu yn adnabod Petr yn llawer gwell nac ' yr oedd efe yn ei adnabod ei hun, a ddywedodd wrtho yn mhell- ach, " Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddyw, o fewn y nos hon, cyn canìi o'r 'ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith." Ond Petr eto yn methu credu mor ddrwg a hyny am dano ei hun, a ddywedodd yn helaethach o lawer, • Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.' Tra yr oedd yr ymddyddan yma yn parhau cydrhwng Crist a'i ddisgybl- ion, hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw yn Gethsemane—lle ag y mae meddwl pob gwir Gristion wedi ei fynychu lawer gwaith ar ol hyny—lle a gysegrwyd y noswaith hòno i fod yn'nno'r llanerchi mwyaf cofadwy mewn banesiaeth—lle a gofir tra byddo haul, ac wedi hyny. Ẅedi dyfod i'r lle hwn, dywedodd yr Iesn v * j