Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: EHIF. 8.] CHWEFEOE, 1868. [CYF. II. 8fntfthö<îatt, &r. DYLEDSWYDD MAM AT EI PHLANT, V GWOBRWYEDIG TN EISTEDDFOD BAELARAT, 1867. Y Ferniadaeth.—" Dyledswydd Mam at ei Phlant, testyn i Fenywod." Only one lady has had the courage and ability to enter the arena, " Gwenddydd," but she is an excellent writer. The subject is beautifully handled; the language is simple, and fitted to the subject, and flows gently and soothingly, like the life of a good woman, leaving delightful impressions and enduring charms on each page to the end of the chapter. The task of reading and judging this well written papef was very agreeable; and we earnestly hope her lessons wiü be read and followed by many, and that her triumphs will not end to-day. She more than merits the priie. —Berniad, D. H. Evans, Ysw., Wangaratta. Yn ei gartref y derbyn dyn ei wrtaith oreu, hon yw ei brif feith- rinfa; yma y megir ei gorff, y diwyllir ei feddwl, y ffurfìr ei duedd- iadau a'i arierion; yma hefyd, i raddau pell, y llunir ei gymeriad moesol, er da neu er drwg, am ei holl fywyd dylynol. Cartref yw yr ysgol oreu neu y waethaf o'r holl ysgolion; a pha un ai y flaenaf ynte yr olaf a fydd hi, a ddibyna braidd yn hollol ar gymeriad y fam, i'r hon y perthyn athrawu, Uywyddu, ac hyfforddi yn ei theulu. Meddyliwyf fod yn hawdd deall paham y mae dylanwad y fâm yn y teulu yn fwy na'r eiddo y tad. Y mae hi bob amser yn bresenol, neu o leiaf hi a ddylai fod; dygir y plentyn i fynu yn ngolwg ei llygaid, ac am yspaid rhai o flynyddau cyntaf ei fywyd dysgir ef gan ei llygaid; hi yw ei esampl a'i gynllun, a'r hyn yw hi, hyny hefyd, gydag amser, fydd yntau. Y mae'r plentyn yn naturiol edrych i fynu at ei fam am ei borthiant, ei wrandawiad, a'i gymhorth; ac os bydd hi yn dda, diwyd, gwyliadwrus, ac amyneddgar, gellir yn naturiol ddisgwyl i'w phlentyn ei pharchu a'i hanrhydeddu. " Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ, ac ni fwyty hi fara seguryd. Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd." Diar. xxxi. 27, 28. "Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minau a roddaf i ti dy gyflog," ebai'r dywysoges Aiphtaidd wrth Jochebed, mam Moses. Derbynia pob mam siars gyfíelyb, ac yn ddîau fe ddylai yr ystyriaeth o hyn fod yn gymelliad ac yn galondid* iddynt yn nghyf- lawniad eu dyledswyddau rhieiniol (parental duties). Iíhoddir yr ymddiriedaeth anhybris hon ar y fam gan Dduw ei hun, Tad Mawr pawb oll. Iddo Ef y mae hi yn gyfrifol am ei gonestrwydd neu ei hanoneatrwydd, ac yn ei gymeradwyaeth Ef y dylai hi ddisgwyl ei gwobr. 2 x