Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: EHIF. 13.] GOEPHENAF, 1868. [CYF. n. YR EGLWYS DREENUS. GAN T PAB.CH. ROBERT ELLIS, CLWT Y BONT. "Gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn," sydd gynghor dwyfol. Mae rheol a threfn, gydag unrhyw sefydliad, yn beth hwylus a hardd. Gyda rheol a threfh gelür gwneud pob peth yn llawer mwy diboen, ac yn llawer mwy effeithiol. Ac y mae felly gydag achosion eglwysig: eglwys o ran ei phethau allanol, yn cael ei dwyn yn mlaen yn rheolaidd a threfnus—pob peth yn ei le ei hun, pob peth yn ei amser ei hun, a phawb gyda'i waith ei hun—mor hylaw, mor hardd, ac mor effeithiol ydyw! A phaham na byddai felly gyda phob eglwys? Paham y llusgir yn fwy annyben a didrefn gydag acho3 crefyddol nag unrhyw beth arall yn yr ardal ? Ond ceir yn rhy fynych mai hyn yw y ffaith. Md oes mewn ambell i ardal na fferm, na siop, na melin, na phandy, yn cael eu dwyn yn mlaen mor ddilun a didrefn a'r achos crefyddol yn y lle. Mae llawer o gwyno genym fod crefydd yn isel: gellir ofhi fod cwyno o'r fath yn fwy o arferiad nag o deimlad. Pe byddai dynion yn teimlo fel y maent yn cwyno, gwnaent rywbeth heblaw cwyno. Pa ryfedd fod yr achos yn isel mewn llawer man gan ei fod yn cael ei adael megis i ymdaro drosto ei hun ? Pe byddai i ryw achos arall gael ei adael mor ddilun, darfyddai am dano; nis gallai ymgynal yn y fath annhrefh. Ac oni bae fod mewn eglwys ryw elfen anfarwol, nis gallai hithau ymgynal. Mor annheilwng yn y rhai a broffesant eu hunain yn gyfeilüon i'r Gwaredwr, eu bod yn ddynion gofalus a threfnus gydá'u pethau eu hunain, ond yn gadael ei wasanaeth Ef i ymdaro rywfodd, rywlun 1 Gwir mai yr elfen sanctaidd o fywyd yw gogoniant eglwys, a bod y bywyd hwn mewn annhrefn yn tra rhagori ar ffurfioldeb trefnus a marw. Mae eglwys drefnus heb fywyd yn rhy debyg i fynwent drefnus: trefn dan deyrnasiad marwolaeth ydyw. Ond mae yn llawer haws i'r bywyd sanctaidd hwn ymddangos yn ei ogoniant, a thori allan mewn gweithgarwch grymus, lle byddo trefn dda, nag yn nghanol aflerwch. " Nid yw Duw awdwr annhrefn ond trefn." Diafol, a rhai rhy debyg iddo, sydd yn creu ac yn caru annhrefn. Er dwyn yn mlaen achosion eglwysig yn drefnus, wrth gwrs, mae yn rhaid cael swyddogion. Ni feddyìiodd neb ond rhai â rhyw 3a