Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: EHIF. 16.] HYDEEF, 1868. [CYF. II. EGLWYS DDEFNYDDIOL. Yr ydym wedi teimlo cymhelliad lawer gwaith i geisio ysgrifenu rhywbeth ar y testyn uchod,a'i gynyg at wasanaeth yr Austealtdd; ond rywffordd yn methu casglu digon o nerth i droi y dymuniad yn benderfyniad, a'r penderfyniad yn weithred. Yn awr, pa fodd bynag, y mae yr ysbryd wedi disgyn arnom yn fwy helaeth nag arferol— teimlwn ei bod yr adeg fwyaf manteisiol i wneud yr attempt. Y mae y llithoedd rhagorol ar " Eglwys Drefnus" sydd newydd ym- ddangos yn eich cyhoeddiad wedi rhwyddhau llawer ar ein ffordd, ac arloesi y tir o'n blaen: y mae y gwaith wedi ei haner wneud yn barod —nid oes ond megis un cam yn mlaen i'w roddi o eglwys drefnus i eglwys ddefnyddiol. Sicr ydyw nad oes Uawer o ddefnyddioldeb i'w ddysgwyl lle na bo trefn, ac nid yw trefn chwaith ond rhagbarotoad i ddefnyddioldeb. Defnyddioldeb heb drefn sydd beth nad yw yn rhesymol ei ddisgwyl. Trefn heb ddefnyddioldeb nid yw ond o ychydig werth. Y drefn oreu ydyw hòno sydd yn arwain i'r defn- yddioldeb mwyaf. Mae rhyw ymwybyddiaeth led gyffredinol wedi ymaflyd yn medd- yliau Cristionogion, y dyddiau hyn, nad ydyw dylanwad yr eglwys ar y byd ddim y peth y gallai fod; ac, o ganlyniad, nad yw ei defnydd- ioldeb y peth y dylai fod: naill ai y mae yr eglwys wedi gadael ei hen lwybrau, yn y rhai yr arferai fod yn ddefnyddiol; neu y mae yr amseroedd wedi cyfnewid, a chymdeithas wedr symud yû mlaen a gadael yr eglwys ar ol heb ddarpariaethau priodol i gyfarfod âg angenion presenol y byd. Y mae rhyw ddiffyg, neu, feallai, ddiffygion yn rhywle, neu byddai mwy o ddylanwad yr eglwys i'w weled ar y byd. Cysur, pa fodd bynag, ydyw meddwl fod Cristionogion yn deffroi yn y dyddiau hyn i ystyried y mater o ddifrif, a bod Seion etto fel yn gwregysu ei lwynau i ail gymeryd gafael yn y galon ddynol gyda mẃy o rym ac effeithioldeb nag y gwnaeth hi erioed o'r blaen. Ychydig ydym wedi weled o arwyddion symudiad yn y cyfeiriad hwn yn mysg ein cenedl ein hunain, feallai fod serch hyny, yr ydym dan heth anfantais i wybod. Ond y mae yn amlwg fod y genedl Saesonig drwy y byd yn fyw ac yn gweithio: y mae eu cenadaethau trefol, eu 3k