Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATTSTHALYDD: EHIF. 17.] TACHWEDD, 1868. [CYE. II. SFraŵîfta, &r. EIN CYFARFODYDD GWEDDIAÜ. Ye ydym yn tybied fod angenrheidrwydd neillduol yn y dyddiau hyn am alw sylw yr eglwysi at y cyfarfodydd gweddíau, Un peth sydd yn galw am sylw ydyw anamledd y bobl sydd yn dyfod iddynt. Wedi cyhoeddi cyfarfod gweddi misol ni cheir ond nifer fechan o'r aelodau eglwysig yn bresenol ynddo, ac yn y cyffredin yr un personau fydd yn bresenol bob amser. Gwyddom am lawer un sydd yn gwisgo yr enw crefyddwr na welwyd ef erioed mewn cyfarfod gweddi misol, ac ond anaml mewn cyfarfod gweddi boreu neu brydnawn Sabboth. Meddylier am ddyn yn proffesu cariad at y Gwaredwr: os ydyw ei gariad yn ddiffuant at berson yr Arglwydd Iesu, y mae hefyd yn caru Üwyddíant ei achos a helaethiad terfynau ei deyrnas ar y ddaear. A ydyw yn debyg y gwna un fel yna lwyr esgeuluso cyfarfodydd fydd wedi eu cyhoeddi o bwrpas i weddio am lwyddiant yr efengyl ? Medd- ylied y íhai sydd yn euog yn ngwyneb hyn, a oes rhyw fath o gyson- deb yn eu hymddygiadau a'u proffes, ac a allant berswadio eu cyd- wybodau fod ganddynt grefydd a ddeil oleuni tragwyddoldeb! Ein hamcan yn benaf yn yr ysgrif hon yw galw sylw ein brodyr crefyddol at y diffygion sydd yn rhy aml yn y cyfarfodydd hyn. I. Diffyg pwysig a ganfyddir mewn llawer cymydogaeth ydyw diffyg ufudd-dod. Nid anfynych y gwelir un neu ddau yn yr un cyfarfod yn gomedd cymeryd rhan gyhoeddus ynddo, yr hyn bob amser sydd yn cael argraff ddrwg ar feddyliau rhai dibroffes a fyddo yn bresenol. Mae ambell frawd mor wan a hunanol, fel os digwydd ìod rhywbeth yn groes i'w feddwl a'i deimlad ef yn rhai o gysylltiadau yr eglwys, neu os bydd rhyw frawd neu chwaer wedi dweyd rhyw beth yn anffafriol am dano, rhaid iddo gael d'ial am y naill gamwedd a'r llall trwy anufudd-dod cyhoeddus yn y cyfarfod gweddi. Mae ymddygiad fel hyn yn taflu anfri ar Dduw a'i wasanaeth, ac yn dar- ostwng y dyn ei hun yn ngolwg y byd a lluaws ei frodyr. Dichon y bydd ambell frawd yn syrthio i'r camwedd hwn yn awr ac eilwaith pryd na bydd hyny yn ffrwyth ysbryd drygnawsedd a rhagfwriad, ondyn hytrach yn ffrwyth gwylder neu ddifaterwch. Dymunem ar i'n Iẃli ddarUenwyr sydd yn proff esu crefydd Iesu Grist, roddi ufudd-dod 3n