Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE AUSTRALYDD: EHIF. 10.] EBEILL, 1868. [CYF. II. Sfatríhodau, ŵc. —» TANGNEFEDD. YMDDYDDAN RHWNG DAU GYFAILL. //bn. Atolwg, Dafydd, onid yw yr amser hwn yn un rhyfedd iawn ? Edrycher i'r cwr a fyner o'r byd bron, mae rhyw derfysg ac aflonydd- woh. Ac am danom ninau, ceuedl y Cymry, mae rhyw ymbleidio ac ymraniadau rhyfedd iawn yn ein plith. Dafydd. Felly y mae. Mao ceûedl y Cymry wedi bod yn hynod yn mhob oes am ÿmraniadau yn eu plith eu hunain. Dyna fu yn achlysur i llufeiniaid, a Saeson wedi hyny, ein darostwng; a'r'yniranu a'r ymbleidio sydd yn dyfetha crefydd yn ein plith y blynyddoedd hyn hefyd. Mae yn gwneuthur hyny amrywiol ffyrdd; pa rai yr ydych chwithau wedi dal sylw arnynt, mi wn. Mae yn ddyled arbcnig arnom, Ifan, i feddwl ain fod yn dang'nefcddwyr. I. Hwy a ddatgenir yn wynfydedig, onide? A hwy a gydnabyddir yn blant Duw. Ond mae yn ddigon anhawdd i ddyn mewn llawcr amgylchiad wybod pa fodd i fod yn dangnefeddwr. D. Mae y tangnefeddwr, dybygid, yn un ag y mae'hiyn dang- nefedd rhyngddo â Duw: mae Duw wedi heddychu âg ef yn y fan lle mae yn gallu heddychu â pheelaadur—yn Nghrist. " Hwn a osododd Duw yn iawn," yn drugareadf&l yn fan cymmodi. Mae Duw yn Nghrist, fel rhywun yn ei swyddfa? mae yno tuhwnt i'r counter, medd Gurnal, yn rhywle, ac yspimg mawr trugaredd yn ei law, a hwnw wedi ei drochi yn ngwaed y groesj a pha bryd bynag y daw y pech- adur i fewn i'r swyddfa i ymofyn cymmod, y mae Duw yn barod gyd a'r yspwng i olchi ei holl gamweddau oddiar y llyfr i gyd ar unwaith. Ac y mae y tangnefeddwr wedi galw yn y swyddfa am gymmod— mewn gwirionedd, o amgylch drws y swyddfa ac yn y swyddfa y mae yn byw; ac, felly, mae Duw mewn hedd ag ef. Mae yntau wedi derbyn y cymmod yn ei fynwes ei hun; mae5 ganddo hyder fod Duw mewn hedd âg ef, mae ei gydwybod wcdi ei thawelu. Maent yn dywedyd, pan fydd llyn o ddwfr yn fwyaf terfysglyd, pe byddai i rywun dywallt rhyw gymaint o olew arno yn môn y gwynt, y llonyddai drosto yn y fan—byddai fel y Uyn Uefrith, fel y gwydr—ymdaenai yr olew drostö i bob man, yna nis gallai y gwynt gael gafael i'w godi yn dònau. Bu cydwybod y tangnefeddwr fel y Uyn, a gwaeth na'r Uyn,pan yn fwyaf terfysglyd; ond yr olwg ífydd a gafodd ar waed Crist a dawclodd y 2n