Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB AUSTRALYDD: BHIF. 1.] IONAWR, 1870. [CYí\ IV. DISTAWRWYDD NERTH. Y mab Uuaws o ddyniòn yn tybied f od llawer o swn a thwrf o angen- rheidrwydd yn gydfynedol âg arddangosiad nerthol—nid oes gallu yn bodoli heb swn, yn ol eu tyb hwy: ac wedi hir ymgynefino â meddwl fel hyn, braidd na thybiant mai swn yw gallu; o leiaf, ymagweddant fel rhai yn credu hyny, a pha le bynag o b*ont, amlygant eu bod yn cael eu llywodraethu gan y dybiaeth hon. Gellir canfod y cyfryw ddynion braidd yn mhob cylch y troir ynddo, a, gresyn y gorfodir ni i sylwi fod Uuaws trigolion y trefedigaethau hyn yn cael eu twyllo gan y rlúth hwn, ac yn ymddiried i gryn fesur yn y rhai a ddesgrifiwyd. Nid oes ynof flys eu dylyn i'r cylch poUticaidd, gan yr ofnwyf dynu cawod o wreichion ar fy mhen. Sylwi yr oeddwn fod pobl y swn yma i'w cacl yn mhob cylch, a'u bod yn ymddwyn yn mhob amgylchiad o dan ddylanwad eu hegwyddor lywodrâethol—pa un bynag ai yn y farchnad ai mewn cymdeithas ymwthiant a'u dadwrdd i sylw, gaüdybied eu bod yn twylio dynion i feddwl yn fawr am eu galluoedd masnachol a meddyliol drwy hyny; ac yn wir, y maent yn Uwyddo ijraddau helaeth yn hyn. Mewn gwirionedd, arwynebol iawn ydynt; a phwy bynag a dwyllir ganddynt, profant eu hunain drwy hyny o gyfans'oddiad cyffelyb i'r twyllwyr. Un o brif nodweddion y bobl hyn pan ddigwydd iddynt fod yn arddei crefydd yw, eu bod bôb amser yn cwyno am nad oes rhyw bethau mawrion yn cyffro y byd crefyddol—hyny yw, uad oes mwy o swn a dwndwr mewn cysylltiad â'r moddion cyhocddus. I'r rhai hyn, nid oes gwir grefydd yn bodoli oni fydd digon o gyffro trystfawr yn ei gwneuthur yn ganfyddadwy i'r synwyrau coi-phorol: gwacddi'n groch dan y bregeth, ochcneidio yn llwythog, gosod y corph mewn ystumiau annaturiol, a gweithìo eu hunain i scfyllfa haner gwallgof o ran eu meddyliau—dyna dybiant hwy sydd yn arwyddo gweitbrcdiadau y nerthoedd dwyfol yn nghalonau dynion. Wfft iddynt, meddaf. Ond waeth heb sylwi yn mhellach ar y tybiau hyn, ac felly prysuraf yn mlaen i geisio dangos fod distawrwydd yn un o nodweddion gallu. , Cawn fod hyn yn wirionedd wrth sylwi ar weithrediadau galluoedd natur: camsyniad ydyw cylymn swn lawer â'r gweithrediadau hyny. Byddwn yn fwy diogel, modd bynag, os goddefir ni i roddi ein gosod- iad i lawr fel hyn:—Fod symudiadau neu weithrediadau y galluoedd A.