Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhifyn 6.] CHWEFROR 9, 1861. [Cypbol XIV. ANERCHIAD AT YR HOLL SAINT SYDD YN Y GENADIAETH GYMREIG. Gan fod. yuom awycld mawr am ledaenu cymaint ag sydd modd ar leshâd ein llafuriau yn y wlad hon, nes y cyrhaeddo yr unrhyw hob Sant, a phob carwr gwirionedd a rhinwedd; a chan nad ydym yn alluog i ddyfod i'ch gweled oll a siarad â chwi wyneb yn wyneb, yr ydym wedi penderfynu i anfon yr anerchiad hwn atoch, fel amlygiad o'r teimladau o ddyddordeb ydym ni yn goleddu bob amser dros blant a gwaith Duw. Yr ydym wedi dyfod i'ch plith, nid i bregethu Efengyl arall, ithr i'ch goleuo, eich cryfhau, a'ch cysuro yn yr hyn sydd wedi ei draethu i chwi ei' iachawdwriaeth, dyrchafìad, a dedwydd- wch. Dymunwn arnoeh, trwy yr holl obeithion ydych chwi yn goleddu am ddyfodol gogoneddus, am ymddwyn yn onest tuagat bawb, gan ddywedyd y gwir yn wastad wrth eich gil- ydd mewn pob doethineb, caredigrwydd, a chariad, yr hwn nad yw yn meddwl drwg; fel y trigo Ysbryd Duw, yr hwn sydd yn dawel ac heddychol, yn wastad ynoch; ac y crea o'ch mewn gyfiawnder o weithredoedd da, y rhai a sicrhant wenau. Nef, ac a barant heddwch a dedwyddwch i'r enaid. RiUE. 6.] [Pris 1|c.