Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGOÍtN SEION, NEU Rhif. 4.] IONAWR 22, 1853. [CrF. V. AIL ARAETH Y LLYWYDD B. YOUNG, Á draddodioyd yn y Gymmanfa Gyffredinol, yn Ninas y Llyn Halen Fawr, ar y 28ain o Awst, 1852. [O'r " Descret News Extra," am Fedi 14, 1852.] Yr wyf ara lefaru ychydig o eiriau wrth y gynnulleidfa cyn y terfynwn, canys byddwn dan yr anghenrheidrwydd o ymadael yn fuan, a dichon y cynnaliwn gyfarfod arall yn yr hwyr. Yr Avyf wedi gwrandaw ar annogaethau y brodyr a lefarasant heddyw gyda llawenydd; ymddangosant eu bod mewu ysbryd da; ac yn wir y mae mwy o newydd-deb mewn Mormoniaetb nag mewn dim ar wyneb y ddaear. Y mae yn bêr ei sain, ac y inae yn boddloni y llygad, a'r clust, a gallaf ddweyd hefyd pob synwyr a í'edd dyn. Pan yn gwrandaw ar y brodyr yn annog y rhai hyny ag ydynt yn myned ar genadiaethau, yr oeddwn am iddynt wasgu un peth ar eu meddyliau, canys y mae anghen iddo fod yn uchaf yno, yr hyn a all fod yn foddion i'w cadw rhag derbyn ystaeniadau ar eu cymmeriad, oddiwrth pa rai efallai nad allant byth gael eu gwaredu. Os bydd i ni ddifwyno ein cymmeriad gerbron yr Arglwydd, neu mewn geiriau ereill, golli tir a gwrthgilio trwy drosedd, neu mewn unrhyw ífordd arall, fel nas gallwn fod i fyny â'n brodyr megys ag yr ydym yn awr, nis gallwn ddyfod i fy.ny â hwynt byth drachefn ; eithr y mae yn rhaid i'r egwyddor ẁon gael ei chario gan yr henuriaid lle bynag yr elont, pa beth