Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

,, ... .*. TJDGORN SEION, NBU Mèim n< #aínt. Rhif. 10.] MAWRTH 5, 1853. [Cyf. V. COFNODION CYMMANFA GYFFREDINOL EGLWYS IESÜ GRIST O SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF, A gynnaliwyd yn y Tabernacl, Dinas y Llyn Hah.n Fawr, yn dechreu Ilydref 6, 1852, 10 yn y boreit,—y Llywydd Brigham Young yn llywyddu, [Parhad o dnd. 141.] Ar y 7fed o Hydref, y Gymmanfa a alwyd i drefn gan y Llywydd Rimball, ugain mynyd i ddeg. Canodd y côr hymn. Gweddiwyd gan yr Hennriad Phinehas H. Young. Canwyd. Yr Henuriad Hyde a nododd fod yn anghenrheidiol i'r Saint ymarferyd eu hymdrechiadau goreu i ddiogelu y parhad o gorff ac ysbryd, fel y gallont harbau gweilhredoedd y Tad, canys gweithia Duw gyda'r offerynau a barotodd i'r perwyl hwnw, ac y mae gan ddyn i berffeithio ei huuan, megys y niae Duw ei hun yn ber- ffaith. Dyn yw yr awdwr o'i ddedwyddwch neu ei drueni ei hun, a dylai gan hyny greu amgylchiadau er gwneuthur ei hun yn ddedwydd. Heb gysuron bywyd, gall y fenyw dyner ei hunan droi cariad yn gasineb, megys ag y gwelwyd yn ngwarchae Jerusalem, pan y hwytaodd y wraig o ffrwyth ei lwynau ei hun. Rhaid i ddyn yragynghori â natur, ac yna pob peth a ymlithra yn mlaen yn esmwyth, pan y gail efe fendithio ei hun ac ereill; ond os gwesgir ef gan eisieu, efe a deimla yn druenus. Mae y dyffryn hwn wedi ei gymmeryd i fyny yn agos i gyd gan ffermydd, ac y mae yr holl goed wedi eu defnyddio, yr hyn * 10