Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NBU Rhif. 18.] EBRILL 30, 1853. [Cyf. V. CYFARCHIAD CAPT. JONES. Anwyl Frodyr a Chwiörydd yn Nghrist,—Wedi hir nr- faethu, a chael fy amddifadu, o herwydd lliosogrwydd a phwysig- rwydd dyledswyddau ereill, o'r pleser o'ch cyfarch trwy y wasg, er pan y tiriais yn ol i wlad fy ngenedigaeth; cipiaf yr adég a'r cyfle presennol i wneyd rhai sylwadau rhag-arioeiniol, gobeithiaf, i lawer o hanesion difyrus, egwyddarion iachus, a dysgeidiaeth a chynghorion dyddorol ac adeiladol, pa rai a ddeallais er pan adawais y wlad hon, a pha rai, hyderaf', y caf y pleser o'u dysgu i chwithau yn eu hamseroedd priodol. Buom yn absennol o'ch plith am yn agos i hedair blynedd, yn ystod pa amser teithiais o bymtheg i ddeunaw mil o filltiroedd. Deallasoch lawer o'm helyntion i, ynghyd â'r lliaws Saint a gychwynasant gyda mi tua Dinas y Llyn Halén Pawr, trwy lythyron,&c. Cefais y fraint o'ch hysbysu am beth o'n helynt- ion wedi cyrhaedd, ac am ystod y tair blynedd ag" y buom yno yn byw, trwy lythyron ; ac or nad oeddynt ond megys llofîion o'r cynauaf toreithiog o'r newyddion dyddanus a'r daioni a ellid ddweyd am Seion, ei Llywyddion dyngarol—ei thrigolion ded- wyddol, ynghyd â'i mwyniant a'i rhagorfreintiau rhyfeddol, yn dymmorol ac yn ysbrydol, etto nid ymhelaethaf ar y pethau hyny yn btesennol. Yn y gymmanfa a gynnaliwyd yn Ninas y Llyn Halen Fawr, yn mis Medi diweddaf, rhyngodd bodd i'r prif gynghor vn Seioa 1S