Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NEÜ 3trm n #aínt. Rhif. 25.] MEHEFIN 18, 1853. [Cyf. V. COFNODION CYMMANFA GYFFREDINOL EGLWYS IESU GRIST 0 SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF, A gynnaliwyd yn y Tabernacl, Dinas y Llyn Halen Fawr, yn dechren Hydref 6, 1852, 10 yn y boreu,—y Llywydd Brigham Young yn llywyddu. [Parhad o dud. 155.] Ar y 7fed o Hydref, am 6 yn yr hwyr, corwmau y Degaua- thrugain a ymgynnullasant yn y Tahernacl, ac a alwyd i drefn gan y Llywydd Joseph Young, pan y canwyd hymn. Gweddiwyd gan yr Henuriad Levi Hancock. Canwyd yr hymn, " Sweet is the work, my God, my King." Gofynodd y Llywydd Joseph Young os oedd rhywun yn bre- sennol a allai hyshysu sefyllfa y brodyr ag oeddynt heb gyrhaedd o'r Taleithiau? Hyshysodi y brodyr fod cwrapeini y siwgr wedi colli pedwar ugain o anifeiliaid trwy ystorm mswn un noson; nid oedd gan lawer ddim blawd, ac yr oedd eu dyoddefiadau yn fawr, ac yr oedd y cwmpeini siwgr yn byw ar eu ychain rhewedig. Sylwodd yr Henuriad Young—Mae llawer © bersonau ag ydynt wedi eu hordeinio yn Ddeg-a-thrugain, yn awyddus am wybod pa bryd y gallant gael eu rheoleiddio. Yr wyf yn dweyd yn awr, am iddynt ymofyn â Llywydd henaf unrhyw gorwm ; ac os oes yno wagleoedd i'w cael, elent iddynt, a llanwent hwynt. Yna ef'e a ddygodd gerbron bwnc Neuadd Gelfyddydol y Deg-a- thrugain, ynghvlch pa un nid oedd dim wedi ei wneyd yn ystod 25