Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NEU Rhif. 26.] MEHEFIN 25, 1853. [Cjtf. V. P R I O D A S, Prioöas sydd gyssylltiad rhwng y ddwy rywiogaeth, yn eu gwneyd yn un, trwy berthynas, teimlad, cariad, mwynhad, a gobaith :—sydd yn cyfreithloni y ddwy blaid i'w gilydd a'u holl —ac yn cylymu eneidiau y naill wrth y llall, hyd nes y mae lles y naill yn lles i'r llall; mwyniant, Hawenydd, a dedwyddwch y naill, yn ddiferion yn nghwpan melysaidd y llall. I'r dyben o fod priodas yn dwyn yr effeithiau hyn, anghen- rheidiol ei bod yn cael ei gwneyd yn rheolaidd a chyfreithlon. Jlwgryma y cyfreithlonrwydd fod cyfraith perthynol i'r cyflwr dedwyddol hwn; yr hyn sydd yn addefedig, gan mwyaf, drwy y ffaitb o fod pawb, bräidd, yn mhlith pob cenedl a gwlad yn mhob oes o'r byd, yn honi yr hawl, er nad pa mor amrywiol eu dulliau, eu seremoniau, a'u cyfreithiau priodasol; etto, y mae cyfaddeiiad yr oll o honynt, o'r anghenrheidrwydd o gyfraith neu ddeddf briodasol; gweinyddiad yr hon ddeddf a ystyrir yn gyf- reithlonrwydd y briodas. Hyd yn hyn, cyduna yr holl fyd braidd o barthed i briodas. Cydunant hefyd y dylai fod cymhwysderau gweinyddol, neu hawl i briodi; eithr nemawr yn mhellach nâ hyn, ni cheir cydwelediad na chydgordiad o barthed i'r pwnc hwn. O barthed i'r iawn ddull, parhad, rheolau perthynol i, ac yn enwedig breintiau, bendithion, dyledswyddau, a gogoniant dyfodol y cyflwr priodasol, y mae cynnifer o wahanol farnau ag sydd braidd o wledydd neu o grefyddau yn y byd : o leiaf, maení thv liosog ac amrvwiol i ddenu llawer o'n sylw yn bresennoh 26