Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, , Ì0 ■ N EU Bmw n ŵunt Bhif. 2.] GORPHENAE 9, 1352. [Cye. W. CYN-EODOLDEB DYN. [Parhad o Gyf. v, tud. 155: cytìeithedig gan D. Elfed.] Yit achos o wrthryfel Satan a ddesgrifìr yn fwy cyflawn yn y cyfieithad ysbrydoledig o lyfr Genesis, megys y dadguddiwyd trwy Joseph y Gweledydb. Rhoddwn y dyfyniad canlynol: " A myfi, yr Arglwydd Dduw, a lefarais wrth Moses, gan ddy- wedyd, Y Satan hwnw, yr hwn y gorchymynaist iddo yn enw fy Unig-anedig,* yw yr un^ag oedd o'r dechreuad, ac efe a ddaeth ger fy mron i, gan ddywedyd, Wele fì; danfon fi, mi a fyddaf yn fab i ti, ac a waredaf holl ddynolryw, fel na choller un enaid, ac yn ddiau mi a'i gwnaf; am hyny, dyro i mi dy anrhydedd. Eithr, wele, fy Anwyl Eab, yr hwn oedd fy Anwylyd à'm Iíetholedig o'r dechreuad, a ddywedodd wrthyf, .0 Dad, dy ewyllys di a wneler, ac eiddot ti fyddo y gogoniant yn dragywydd. Am hyny, oblegid i Satan wrthryfela yn fy erbyn i, a cheisio dystrywio goruchwyliaeth dyn, yr hon a roddais i, yr Arglwydd Dduw, iddo ef, ac hefyd, am i mi roddi îddo ef fy ngallu i fy hun, trwy allu fy Unig- anedig ; mi a berais iddo gael ei fwrw i waered, ac efe a aeth yn Satan, ie, sef y Diafol, tad pob celwydd, i dwyllo, a dallu dynion, a'u harwain yn gaeth yn ol ei ewyllys, "ie, gynnifer ag na wrandaw- ent ar fy llais i. Ac yn awr yr oedd y saríf yn gyfrwysach nâ * Am yr ymdreeh a safodd^Moses y{ Diafol, gwel y dadgnddiad a roddwyrf i Moses yn flaenorol i'w ysgrifeniad ef o Lyfr Genesis, cyhoeddedig yn y "" Perl o Fawr Bris." 2 [pris lg.