Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NEU Ehif. 6.] AWST 6, 1353. [Gtf. VI. COENODION CYMMANEA GYEEREDINOL EGLWYS IESU GRIST O SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAE, A gynnaliioyd yn Ninas y Llyn Iialen Fawr, ar y Gfed dydd oEbrill, 1853. [Partaad o dud. 77.] Tabernacl, tri yn y prydnawn.—Galwyd y Gymmanfa i drefn gan y Llywydd Young. Canwyd. Gweddiwyd gan yr Henuriad Amasa Lyman. Canwyd. Y Llywydd Yoüng a draddododd y ganlynol Yr ydym wedi cydymgynnull y prydnawn hwn i barhau busnes y Gymmanfa, rhan o ba un a ddylai gael ei defnyddio at hyfforddi, addysgu, olrhain i mewn i broâad yr Eglwys, neu mewn unrhyw ffordd yr amlygo Ysbryd yr Arglwydd. Gall y fusnes neillduol ag sydd i'w thrafód meẁn Cymmanfa fel hon, gael ei gwneyd yn dra chyflym—dichon y gallwn wneuthur yr oll sy'n anghenrheidiol, mewn hanner diwrnod, neu mewn diwrnod o bellaf. Daethom ynghyd i'r dyben o addoli yr Arglwydd, ac y mae amryw wedi dyfod o bellder, y rhai a ddymunent ddyfod i fyny yma ac ymuno â'u brodyr i fyfyrio ar waith y dyddiaudiwedd- ŵf, ac i lefaru wrth eu gilydd eiriau cysur; canys y mae yn G [PRI8 lç.