Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ehif. 10.] MEDI 3, 1853. [Cyf. VI. DEEBYNIAD YE YSBEYD. Gofynir i ni weithiau, pa un ai trwy bersonau eu llywyddion, neu oddiwrth Dduw yn uniongyrehol, y derbynia y Saint yr Ysbryd Glân; ac yn bresennol ymdrechwn ateb y gofyniad mor eglur ag y medrwn. Dichon mai buddiol, wrth gychwyn, fyddai egluro ychydig, ynghylch pa beth yw yr Ysbryd Glân, neu Ysbryd Duw. Ym- ddengys wrth yr ysgrythyrau ei fod yn beth sylweddol, ac yn boiìoli er tragywyddoldeb. Darlunir ef "yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd" yn y dechreuad ; ac wedi hyny yn disgyn ar rith colomen ar ben ein Harglwydd, ac megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac yn llanw y tŷ, gan ymddangos megys tafodau gwahanedig o dân, ar y Pentecost. Mae, fel y gwynt, yn chwythu pa le bynag y myno; ac ni a deimlwn eibresennoldeb, eithr ni wyddom o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned. Mae yn bresennol yn mhob man, a gallwn ddweyd am dano, fel y Salmydd, 'I ba le y fföaf o'th wydd?" Mae megys mân ronynau deallgar, yn medru bodoli yn y ffurf a fyno, ac yn gweithredu yn mhob sefyllfa yn ol meddwl Duw. Y sawl ag ydynt wedi ei dderbyn, yw yr unig rai a wyddant ychydig am dano. Er ei fod, megys haul, yn goleuo pawb sydd yn dyfod i'r byd ; etto, ychydig yw y rhai a dderbyn- iasant fflam o hono i oleuo yn eu mynwesau eu hunain, a Uai drachefn a allant gadw y fflam hono yn fyw hyd nes y cyfar- fyddant â'r Priodfab. 10 . [pris \g.