Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, àwìm y> átafitt. Rhif. 14,] HYDREF 1, 1353. [Ctf. VI. UTAH-EI LLYWODRAETHWR, EI CHYMDEITHAS, A'I SEFYDLIADAU. (Dyfyniad o Lythyr oddìwrth yr Ânrhydeddus L. H. Read, Prif Ynad Utah.) [Allan o'r " Bath (U. S.) Advocate.] Dìnas y Llyn Hahn Fawr, Mehefin 23, 1853. W. C. Rhodes,—Anwyl Syr,—Ar foreu dydd Llun (y 6fed), mi a ymwelais â'i Urddasolrwydd, y Llywodraethwr Young, ac a ddangosais iddo fy nghommisiwn, a chefais fy nhyngu yn rheolaidd ganddo a'm rhoi mewn swydd fel Prif Farnwr Utah. Derbyniwyd fì gan y Llywoâraethwr Young gydag hynawsedd a pharch nodedig. Cymmerodd ofal i wneyd fy nhrigfa yn gysurus. Mae y Llywodraethwr Young, mewn moesau ac yraddygiad, yn foneddwr gwrteithiedig. Mae yn dra dillyn a thlws mewn gwisgiad, yn rhydd a phleserus mewn ymddyddan, a meddyliwyf ei fod yn ddyn o dalent neillduol, ac o gynneddfau crytìon a deallgar. Mewn corff, ymdebygola yn fawr i'n diweddar ddinasydd, W. W. McCay. Mi a'i clywais yn anerch y bobl unwaith ar y pwnc o Rydd-ewyllys Dyn. Mae yn lefarwr tra rhagorol: ei ystum yn hynod bryd- ferth, ei barabliad yn eglur, a'i araeth yn felys. Ymdebygola ei lais yn fawr iawn i'r Barnwr Hirarn Gray, o Elmira. Ad- eiladwyd íì yn fav/r trwy ei araeth a'i ddull. Mae y Llywod- iraethwr yn ddyn tra hyddysg yn nhrefniad goruchwylion. Eal 14 [rRis \g.