Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGOÍLN SEION, NEU &et*en g #ilníi Ehif. 15.] HYDEEF 8, 1353. [Cyf. VI. YE ACHOS O'E GWAHANOL SECTAU. [Allan o " Seren Gomer," am Cnwefror, 1844.] Mr. Gomer,—Y mae yn wirionedd nad oes un effaith heb achos ; o ganlyniacl, y raae yn rhaid fod rhyw achos o'r gwa- hanol sectau, y rhai a elwir gan y cyffredin, yn wahanol bleid- iau Cristionogol; ond ni all hyny fod, tra fyddont yn wahanol bleidiau; canys y mae Cristionogion yn cerdded wrth yr un rheol, yn synied yr un peth, yn aelodau o'r un corff, a than arweiniad yr un Ysbryd, ac yn ufyddhau i'r un ordinhadau; canys dyweda Paul, " Trwy un ysbryd y bedyddiwyd ni oll, yn un corff; pa un bynag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caeth- ion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un ysbryd; a'r rhai a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd. blant i Dduw;" ac nid all Ysbryd Duw fod yn arweinydd i ychwaneg nag un blaid, onid yw efe yn gyfnewidiol, barnwch chwi. Ond gan fy mod wedi profi. hyn yn eglur yn Serbn Hydref, a chan ei fod yn amlwg fod y cacwn wedi eu diarfogi o'u colynau, fel nad oes un o honynt hyd yn hyn wedi cymmaint â chwyrnu arnaf, afreidiol fyddai i mi ychwanegu ar y pwnc hwn; ond ymdrech- af ddangos yr achos o honynt i bob creadur rhesymol. Gan ei fod yn warth a dirmyg eithaf (os nid yn gabledd) i ddweyd fod Ysbryd yr unig ddoeth, ac anghyfnewidiol Dduw, yn arweinydd i ychwaneg nag un blaid,—y mae o bwys i ni wybod pa ysbryd sydd yn arwain y lleill; ac y mae Ioan yn ein hateb, gan ddweyd,—" Yr hwn sydd yn adnabod Duw 15 . [pris ìÿ.