Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NBU Ehif. 19.] TACHWEDD 5, 1353. [Cnr. VI. CYN-EODOLDEB DYN. [Parhad o dud. 291.] 77. Yn yr ymadrodd blaenorol, profasom yr effeithiau alaeth- rus deilliedig o gamwedd Adda, wrth eu hystyried yn ddi-gyf- eiriad at yr iawn; oddiwrth ba un y canfyddir, yn gyntaf, fod pechod Adda wedi ei osod ef a'i hiliogaeth o dan gaethiwed a gallu y Diafol, yn yr hyn y daeth holl ddynolryw yn ysbrydol feirw yn dragywydd; gan fod wedi meirw oddiwrth yr hyn sydd dda, hwy a ddaethant yn ddarostyngedig i ewyllys y Diafol, ac fel hyn y daethant yn dragywyddol golledig. Yn ail, fod pechod Adda wedi cau holl ddynolryw ídlan o bresennoldeb Duw, nid i ddychwelyd mwy. Yn drydydd, fod pechod Adda wedi dwyn marwolaeth i'r byd, hyd y nod farwolaeth y corff, neu mewn geiriau ereill, tragywyddol ysgariaeth corff ac ys- bryd, y corff i ddychwelyd i bridd i beidio cyfodi mwy, a'r ysbryd i aros mewn cadwynau tywyllwch i beidio bod yn ddedwydd mwy. Y canlyniadau ofnadwy rhai'n a ddeilliasant oddiwrth y syrthiad. Oddiwrth y canlyniadau rhai'n nis gallai dyn wared ei hunan; yr oedd wedi ei ogylch amgylchynu gan gadwynau o dragywyddol dywyllwch, ac nis gallai eu dryllio yn wahanedig; collodd bob gallu, ac yr oedd mewn dygnedd anobeithiol. Ond yn ddisymmwth, llais o'r uchelder a dreidd- iodd ddyfnderoedd o dragywyddol nos, â pha un yr oedd efe wedi ei amgylchynu; nid llais afrywiog ellyllon maleisus, yn ©rchyll ysgyrnygu ar eu hysglyfaeth caethiwus ydoedd: ond 19 [pris \g.