Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NBU Rhif. 20.] TACHWEDD 12, 1353. [Cnr. VI. PEIODAS NEFOLAIDD. [Parhad o dud. 307.] Dylai y Taleithiau nid yn unig ganiatâu lliosogrwydd, eithr gosod deddfau doeth a synwyrol i reoleiddio yr unrhyw. Dylid gorfodi y gwr trwygyfraith i ddarhod dros ei wahanol wragedd a phlant, yr un fath â phe na huasai ganddo ond un. Dylai y gyfraith wneuthur darpariadau gogyfer â phob un o'i wragedd a'i hlant ar ei farwolaeth, i etifeddu cyfran o'r etifeddiaeth. Dylai y gyfraith ei ystyried yn rhwym trwy fywyd i bob un o'i wragedd, fel pe na phriodasai ond un; ni ddylid ei ystyried yn ysgaredig oddiwrth un, oddigerth trwy drefn briodol cyfraith; a godineb a ddylai fod yr unig drosedd, fel y dywedodd ein Iachawdwr, o herwydd yr hwn y dylid cyfiawnhau dyn am roddi ymaith un o'i wragedd. Os, yn Ue difodi lliosogrwydd, y byddai i'r Taleithiau reoleiddio yr unrhyw dan gyfreithiau da ac iachusol, hwy a'i gwnelent yn llawer gwell dros y gyfran fenywaidd o'r werin; ac mewn amser prynai hyn y genedl oddiwrth y drygau ofnadwy o buteindra, gan yr hwn ei mell- digir yn awr. Yn y dadleuon hyn gosodasom allan beth a ddylid ei oddef mewn perthynas i liosogrwydd, gan belled ag y mae a wnelo athrylith ein Uywodraeth a'n gosodiadau deddf- roddol â'r cyfryw. Ond pan yr ystyriom briodas yn ei pherthynas â llywodraeth ddwyfol y nef, dywedwn, fel y myn- egasom eisoes, nad oes gan un dyn yn y genedl hon, nac un- rhyw arall, hawl ddwyfol i briodi hyd y nod un wraig, a llawer 20 [pris \g.