Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NE.U Rhif. 21.] TACHWEDD 19, 1353. [Cyf. VI. LLYTHYR SANT AT EI BERTHYNAS. Anwyl Gar,—Y mae genyf i gydnabod derbyniad eich llyth- yr, ac i hysbj'su i chwi fy llawenydd i glywed eich bod oll yn mwynhau iechyd, fel ag yr' ydym ninnau yma. Yr wyf yn caru yr ysbryd chwilio sydd yn eich llythyr, á'ch bod yn myned dros gymmaint o'r ysgrythyr i geisio egluro eich pwnc. Ewyllysiwn yn fawr i wneyd sylwadau ar gynnwysiad eich llythyr i gyd; ond yr wyf yn gweled y buasai raid i mi ys- grifenu llyfryn mawr cyn gallael gwneyd hyny. Gan hyny, ymdrechaf wneyd ychydig sylwadau ar ryw bethaü sydd yn teilyngu fwyaf o sylw. Yr ydych yn dwyn Paul yn mlaen i brofl na ddylai fod mwy nag un bedydd—"Un ffydd, un bedydd ;" yr wyf fi yn cytuno yn hollol â Phaul; un bedydd iawn sydd eisieu. Os na fydd rhywun wedi ei fedyddio yn iawn, yr ydym ni yn ei fedyddio eilwaith. Eelly y gwnai Paul hefyd (gwel Act. xix). Yr oedd y deuddeg dyscybl a grybwyllir yna wedi cael eu bedyddio o'r blaen, ac, meddynt hwy, " i fedydd Ioan." Ond pe buasai loan wedi eu bedyddio, buasentyn gwybod ynghylchyr Ysbryd Glân, canys tystiolaethai efe arn hwnw. (Math. iii, 11.) Yr oeddynt wedi cael eu bedyddio, ynte, gan ryw un o'i ddys- cyblion—rhywun heb feddu awdurdod. A phan ddeallasant hyn, cymmerasant eu bedyddio gan Paul eilwaith. Chwi wel- wch wrth liyn, na wna un bedydd y tro, bydded ei ddull a'i ddeiliaid yn iawn ai peidio, os na fydd wedi ei weinyddu gan 21 [phis ìg.