Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÜDGORN SEION, NEU 3>mn n ŵaürt. Ehif. 4.] IONAWE 28, 1854. [Crs. VIL DAMMEG Y BONEDDWE A'I FAB. Ar foreu goleu, hyfryd a néfolaidd, cyn tewynu o'r haul, lloer na sêr, boneddwr cyfoethog a duwiol a ymwelodd â'i fab, yr hwn pan ei canfyddodd a redodd i'w gyfarfod, ac a'i croesaw- odd yn anwylaidd i'w balas. Tad.—Fy ngofal am danat ti a'th deulu, o herwydd y berth- thynas anwylaidd sydd rhyngom, a'm cymhellodd i dalu ym- weliad â thydi fy mab; ac yn awr galw dy holl deulu ger fy mron, fel eu gwelwyf ac y gwnelwyf iddynt ddaioni. Mab.—Gyda llawenydd mawr yr ufyddhaf i'ch arch yn hyn, fy anwyl dad, a diau mai pleser mawr a fydd ganddynt hwythau oll eich cyfeillach, am yr anrhydeddant chwychwi megys fy hunan. Tad.—Wele, canfyddaf y bod dy deulu wedi lliosogi yn fawr, nid oes le cyfieus i gynnifer yn dy gyífiniau; heblaw y dylit ddarpáru iddynt, fel teilwng wrthddrychau dy ofal, bob dysg- eidiaeth ac ystadau erbyn y tyfant i oedran, y dewisant hwythau ymbriodi a Uiosogi eu heppil; canys yn gwneyd hyny mae eu dedwyddwch yn gynnwysedig. Mab.—Gyda theimladau dyledus i'm hanwylaidd deulu cyd- nabyddaf hyn oll, a gwnaethym hyd y mae defnyddiau genyf. Tad.~ -Dy anghenion hyn, fy Mab, ni ddiangasant rhag treiddiad golygon gofalus dy Dad; eithr mewn pryd daethym i wneuthur i fyny dy anghenion, trwy gyflwyno i ti ac i'th had y freintlen haelionus a ddaliaf yn fy llaw, yr hon sydd gyffelyb 4 " [pkis \g.