Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TJDGORN SEION, NEtf JlÉtçM í> Aaütt. Rhif. 27.] GORPHENAF 22, 1854. [Cyf. VII. UNFED EPISTOL CYFFREDINOL AR DDEG PRIF LYWYDDIAETH EGLWYS IESU GRIST, SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF, Ât y Saìnt yn Nyffrynoedd y Mynyddcedd, ac at y rhai sydd ar wasgar drwy y ddaear. [Parhad o dud. 417.] Em hanwyl frawd Wiliard a aeth tudraw i'r llèn; i ni y mae wedi myned; i Joseph a Hyrum y mae wedi dyfod. Am ysbaid byr mae'n wir, y gorphwys ei gorfî' yn y bedd, er ei adnewyddu, ei íÿwhau, a'i ddarparu i yrfa anfarwol, tuhwnt i ddylanwad pechod, Satan, afiechyd, a marwolaeth. Yn nghyhydedd ei fywyd a'i ddefnyddioldeb y mae wedi ei gymmeryd, yn ymddan- gosiadol, ddim ond i'w waredu rhag trafferth, gofal, ac ysgat- fydd rhag trallod ac erlidigaeth etto a ddaw, o'r hyn yr oedd wedigoddef ei gyflawn ran. Ni fydd ein gwasgariad ond byr, pe yr estynid ein heinioes cyhyd ag einioes y cyffredin o blant dynion. Cymmerwyd eí yn bur glaf ar yr 22ain o lonawr, a pharhaodd trwy ddyoddefaint llymdost hyd yr lleg o Pawrth, am hanner awr wedi naw yn y boreu, pan y syrth- iodd i gysgu yn muddugoliaethau yr efengyl; yn yr efengyl a'r ffydd hono a'i cynnaliodd cyhyd, a roddodd iddo nerth a gallu yn ei gyfyngderau mwyaf, ac a weinyddodd iddo gysur yn yr helbul a'r cystudd llymaf. Nid ymchwyddai ei fynwes ond am ledaeniad yr efengyl, ac iachawdwriaeth ei rywiogaeth; ei 26 [pris \g.