Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGOÍtN SEION, WEtí Rhif. 29.] AWST 12, 1854. [Cyf. VII. AEAETH Y LLYWYDD YOUNG YN Y GYMMANFA, A gynnahwyd ar y fìjed o Ebrill, 1854, yn v Tabernacl, yn Ninas y Llyn Halen Mawr. Yn flaenaf, frodyr a chwiorydd, carwn ddeall yn eglur beth yw eich teimladau, a gwybod a ydyw pob person ag sydd yn pro- ffesu ei hun yn Sant y Dyddiau Diweddaf, yn meddu sicrwydd yboreu heddyw, ei fod wedi ei heddychu â Duw,—fod ei hedd- Wch megys afon ffrydiog dragywyddol, fel y byddo Ysbryd yr Arglwydd Iesu ynddo megys ffynnon o ddwfr bywiol. Os yw Ysbryd Duw ynoch fel hyn, yn tarddu i fywyd tragywyddol, y mae yn adnabyddus i chwi. Hyn yw y rhan bwysicaf o orchwyl ein Cymmanfa. í?e bai ein eisteddiad yn parhau am flynyddoedd, nis gwn am un neges a chymmaint o bwys i'w gosod ger bron ein Cymmanfa. Pedair blynedd ar hugain i heddyw y sefydlwyd ein Heglwys. Meddyliwn fod miliwnau o bobl yn perthyn iddi, neu meddyliwn fod ychydig, a hwy wedi ymadael ag Ysbryd yr Efengyl Santaidd, Avedi gwrthgilio yn eu serchiadau, ffydd, ac ysbryd dadguddiad,—wedi ymadaw â'r Arglwydd eu Duw, ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân, gweinidog- aeth angylion,—y doniau a'r bendithion wedi eu gadael,—wedi ymgynnull mewn rhith, yn cydsynied ag arfer sefydledig, yn ymarfer ag ordinhadau teyrnas Dduw, yn canlyn rheolau a threfniadaeth iawn ffurflad Eglwys Iesu Grist o Sáint y Dydd- ian Diweddaf, a dim rhagor nâ rhith farwol ynddynt, nis gall- ant dderbyn un gronyn oleshâd wrth gyfarfod fel hyn. Yna, 28 [fuis \g.