Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, Rhif. 19.] MEDI i3, 1856. [Cyf. IX. LLYTHYR* THOMAS JEREMY. Dìnas y Llyn Halen Mawr, Mehefm 29, 1806. Anwyl Frawü Daniüls,—Yr wyf yn awr newydd ddychwelyd o'ch tŷ chwi, a chefais yno bleser mawr wrth ddarllen eich llythyr cynnwysfawr at eich priod; da genyf ddeall eich bod yn mwynhau iechyd, yr hyn sydd yn un o roddion gwerthfawr eich Duw. Gan fod eich priod yn ysgrifenu atoch ei hunan, gyda y Uythyr-gerdyd ^ydd yn gadael oddiyma boreu dydd Mawrth nesaf, ni wnaf roddi newyddion oddi wrthynt hwy i chwi, ond yn unig dywedaf eu bod yn gysurus, a'r Arglwydd yn eu llwyddo, a Dafydd yn ddyn mawr cryf a gwrol tebyg iawn i'w dad. Cefais y pleser boreu heddyw o wrando dau o Apostolion j j Dyddiau Diweddaf yn annerch y Saint yn y Bowery, sef P. P. Pratt ac Amasa Lyman. Wedi i'r Apostol Pratt roddi ychydig ö hanes ei genadiaeth trwy y sefydliadau deheuol o'r Diriogaeth hon, sylwedd wed'yn ar y nerth a'r gallu mawr sydd yn dilyn Saint Duw, pa rai a eneinnir yn ei Deml sant- aidd, er na theimlent efallai lawer ar y pryd, ond eu bod yn cael eu heneinnio erbyn y deuai galwad am nerth yr eneinniad hwnw, megys yn achos Daf ydd gynt, yn lladd Goliah, &c. Testun y Brawd Lyman yn fwyaf neillduol oedd annog y Saint i harddu preswylfeydd Seion yn fwy-fwy yn barhaus, fe} |<j Púis \g.