Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, * NEÜ Rhif. 25.] RHAGFYR 6, 1856. [Cn?. IX. P R E G E T H, GAtf T LI.TWTDD B. YOUNG, BOîTERY, MEHEFIN 22, 1856. (Parhâd o tud. 373.J Ni ellwch roddi í unrhyw berson ei ddyrchafiad, heb iddynt wybod pa beth y w drwg, pa beth yw pechod, tristwch, a thru- eni, canys ni allai un person ganfod, gwerthfawrogi, a mwyn- hau y dyrchafiad ar un egwyddor arall. Daeth y diafol, gyda y dryddedd ran o ysbrydion Teyrnas ein Tadyma o'n bken ni, ac arosasom ni yno gyda ein cyfeillion, hyd oni ddaeth yr amser i ninnau ddyfod i'r ddaear, a chymmeryd tabernaclau; ond gwaharddwyd i'r ysbrydion hyny a wrthryfelasant fyth gaet tabernaclau o'u heiddo eu hunain. Gallwch weled yn awr pa ham y maent bob amser yn ceisio cael meddiant o gyrff dynol; darllenwn am ddyn a feddiannwyd gan leng-vaŵyr oedd gan- Mair Magdalen saith. Gellwch yn awr weled pobl a llengau o ysbrydion drwg o'u mhewn ac o'u hamgylch; y mae dynion a gerddant ein heol- ydd sydd ag ychwaneg nâ chânt o gythreuliaid o'u mhewn ac ó'u hamgylch, yn eu cynhyrfu i wneuthur pob math o ddryg- ioni, a rhai hefyd a broffesant fod yn Saint y Dyddiau Diwedd- af, a phe cymmerech y diafliaid ymaith o'u mhewn ac o'u hamgylch, gadawech hwynt yn gyrff meirw; canys credwyf na adewid dirn o honynt. 25 Pris \rj.