Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

>ernt e Buínt Rhif. 3.] CBWEFROR 7, 1852. [ŵf. IŸ. Y MORMONIAID YN UTAH, [O'r " New York Daily Tribune," 1on. 13, 1852.] Yr ydym wedi cyhoeddi yr hanesion a roddir gan y Barnwyr Brocchus a BrandEburg a'r Ysgrifenydd Harris, yn cyhuddo y'Mormoniaid o fradwriaeth yn gystal ag anfoesoldeb, a dwyn rhesymau gerbron paham nad allai y swyddogion byny aros yn y Diriogaeth. Mae yr hanesion hyn wedi eu gwadn yn bendant gan Mr. Bernhisel, Cynnrychiolydd Utah, ar lawr y Congress, yr hwn sydd yn herio ac yn hawlio yr ymchwiliad manylaf o'r ìioll fater, mor bell ag y perthyna i Lywodraeth yr Unol Daleith- iau. Yr ydym yn cael hefyd yn y Republìc erthygl o ochr y Mormoniaid, yr hon a ddeillia o le cyfrifol, a*r hon a gop'iwn fel y canlyn: — "Y newydd o basiad yr ysgrif yn sefydhi y llywodraeth a'r penodiadau o swyddogion, yn llywodyddol abarnol,agyrhaeddodâ Ddinas y Llyn Halen oddeutu Nadolig diweddaf, ac a roesawyd trwy danio cyflegrau, a phob math a ddangosiad arall o lawenydd brwdfrydig. Cymmerodd y Llywodraethwr lw ei swydd yn fuan ar ol hyny, eithr ni reoleiddiwyd y Diriogaeth yn gyflawn cyn mis Awst. Cafodd y 4ydd o Orphenaf ei gadw yn y ddinas gyda rhwysg mawr. Y swyddogion nad oeddynt yn byw yn y Diriogaeth, a gyrhaeddasant gylch-le eu dyledswyddau bythèfnos ar ol hyny, oddieithr y Barnwr P. E. Brocchus. " Cafodd y Swyddogion eu derbyn oll yn barchus a llettygar. Yr oeddynt yn cael eu boddloni gyda sefyllfa sefydliad y Llyn Haleu, a'r cysuron ag oedd diwydrwydd ei diigolion wedi gasgln o amgylch iddynt yn eu cartref mynyddig; er hyny, cawsant allan fod y prisiau Californiaidd ag oedd yno, a'r draul o fyw o danynt, yn anghymmesur â maint y gyflug a roddid iddynt gaa