Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEU Rhif. 7.] EBRILL 3, 1852. [Cyf. IV. PATRIARCHAIDD. AT Y SAINT GWASGAREDIG TRWY Y BYD, IN ANERCH. [Allan o'r " Deseret News.''] Anwyl Frodyr a Chwiorydd,—Mae Ysbryd Duw yn ty nghynhyrfu i ysgrifeuu episiol, a rhoddi i chwi ryw gyughor îadol ar y pryd hwn. Yr wyf yn gweddio ar Dduw, fy Nhad tragywyddol, i oleuo fy meddwl, a chyfranu i uii eiriau ac egwyddorion ag a fyddant i chwi megys balm i archoll, neu ddwfr i sychedig. Y mae yn awr dros un ar hugain o flynyddau er pan reoleidd- iwyd Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diweddaf, o chwech o aelodau,—y rhan fwyaf o ba rai ydynt wedi eu rliifo gyda'r meirw. Yn fuan wedi ei rheoleiddiad mi a glywais yr Efengyl trwy fy , nai, Joseph Smith, ieu., ac mi a ufyddhëais i orchymynion yr .Arglwydd trwy fyned i mewn trwy y drws, yr hwn yw bedydd. Oddiar y pryd hwnw y mae llawer o olygfeydd wedi myned heibio, yn y rhai y cyfranogais i; achosai rhai o honynt i mi lawenhau, a llawer ereill i gael fy llethu gan dristwch. Buasai cymmeryd mewn llaw i ddesgrifio teithiau, eilidiau, a dyoddeSadau y Saint, er pan y daethym i gyntaf yn adnabyddus â'r gwaith, yn ddigon i lanw cyfrolau ; ac er bod fy ysbryd yn ewyllysgar i mi fanylu ar y pethau hyn, ac ychwanegu fy nhystiolaeth at y llaweroedd ag ydvnt eisoes wedi ei phregethu a'i chyboeddi i'r byd, etto mae y cnawd yn wan, ac y mae fy mysedd oedranus yn crebachu wrth gydio yn yr ysgrifellj digotì