Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NEO Rhif. 11.] MAI 29, 1852. [Cyf. IV. COFNODION CYNGHOR CYFFREDINOL NEILLDÜOL Prif Aivdurdod.au Cynnadleddau Prydeinig Eglwys lesu Grist o Saìnt y Dyddiau Diweddaf. tParhad o dnd. 156.] Prydnawn Dydd Mawrth, Ebrill 6, 1852. Am dri o'r gloch ymgyfarfyddodd y Cynghor, yn ol y gohîriad, ac a ail-agorwyd trwy ganu y 18fed Hymn, " Beloved brethren, sing his praise,'' &c; ar ol yr hyn gweddiodd yr Henariad Erastus Snow. Y Llywydd F. D. Richards, ar ol ychydig o sylwadau rhagar- weiniol, a ddywedodd,—Yr wyf yn gosod o'ch blaen y gorehwyl o benodi Llywydd ar yr Eglwysi Frydeinig pan fyddaf û yn ymad- ael, ac er rhoddi i chwi feddylddrych cywir o'r pwnc, mi a •ddarllenaf lythyr wedi ei arwydd-nodi gan y Llywydd Brigham Young, yn cynnwys hyfForddiadau ar y pwnc hwn. Ond cyn gwneuthur felly, er fy moddlonrwydd fy hun, mi a alwaf drosodd enwau y Llywyddion, &c. [Cafwyd allan, trwy alw drosodd yr enwau, fod holl Lywydd- ion j Cynnadleddau, &c, yn bresennol, oddieithr Llywydd Cyn- nadledd Ynys Manaw, a Llywyddion yrEglwys yn yr Iwerddon.] Wrth osod y cwestiwn hwn o'ch blaen, frodyr, mi a ddarllenaf i chwi gyfran o'r llythyr hwn oddiwrth y Llywydd 13. Young, raor hell ag y mae yn dal cyssylltiad â'ch dyledswyddau cyhoedd- ub chwi. 11