Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÜDGORN SEION, NBU &tmi k Aaùtt. Rhif. 23.] TACHWEDD 13, 1852 [Cyf. IV. OFFEÍRIADAETff. Mae dynion yn eu huchelfryd wedi bod erioed yn ymgeisio am awdurdnd, er llywodraethu ac yraarfer dylanwad meistrolaidd ■dros eu cyd ddynion; ac yn gyffredin ychydig iawn o sylw sydd wedi ei dalu ynghylch y dull a'r modd y daethant yn fedd- iannol ar y fath awdurdod, ac wedi ei gael, nid yw bob amser wedi ei ddefnyddio gyda golwg gywir at les neu iachawdwriaeth dynolryw. Mae yr awydd hwn, yr ydym yn cyfaddef, yn un tra naturiol, oddiwrth y ífaith fod dyn wedi ei fwriadu gan Dduw, <a'i gyfaddasu yn ei gyd gorft'oliadi fod yn llywodraethwr i raddau mwy neu lai yn yr amryw raddau a fodolant, o fod â llywodraeth ■ar ei nwydau, ei dueddiadau,a'i berson ei hun,hyd at fod â llyw- odraeth ar deulu, llwyth, cymdeithas neu gydwladoldeb, talaeth neu genedl, amherodraeth neu deyrnas; a dichon i'w uchelfryd hyd y nod chwennych llywodraethu y byd, neu megys Duw, i ysçwyd teyrnwialen dros fydoedd aneirif. Nid yw pob awdurdod yn deilliaw yn uniongyrchol o'r un ffynnonell, eithr y mae yr hawl gyfreithlawn o Lywodraeth yn Oft'eiriadaeth Duw. Mae gormeswyr a thraws-feddianwyr, dan y teitlau o Amherawdwyr, Breninoedd, a Llywodraethwyr, yn meddu Uywodraeth ar y ddaear, yr hon a gafwyd, ac a gedwir trwy y cleddyf a thrwy waed, yr hyn oll sydd yn draws feddiant o awdurdod, a ennillwyd trwy allu, ac nid trwy hawl. Mae hyd y nod sŵn y gair Offeiriadaeth, i bob dyn a fedd ddrychfeddwl cywiram lywodraeth Duw,yn rhoddi syniad ag sydd naill ai yn tlyrchafu ei enaid gan lawenydd, neu ynte, os nad yw ef yn teiralo 23