Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BUGEILYDD. Cyf. I. Rhif. 8. MEHEFIN, 1881. Peis 2q. ENWOGION YR EGLWYS GYMREIG. Y Tra Pharchedig Henry Thomas Edwards, M.A., Deon Bangor. (Gweler y darlun ar y ddalen gogyfer.J §AB ydyw'rDeon i'r diwedclar Barch. W. Edwards, Ficer Llangollen, a *v-£5rì ganwyd ef ym. Mheriglordy Llan- ymawddwy, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1887. Addysgwyd ef yn bennaf yn Ysgol Westminster, Llundain, ac yn 1857 ym- geisiodd am y " Powis Scholarship," pryd y dyfarnwyd ef yn gyd-fuddugol ag un Mr. Nicholas, yr hwn a raddiodd wedi hyn yng Nghaergrawnt yn seithfed yn y " First Olass Classical Tripos," ac yn " Senior Optime," ac a wnaedyn Gymmrawd Coleg St. loan ; tra yr aeth y Deon i Rydychen, He yr ennillodd Ysgoloriaeth yng Ngholeg lesu, ac a osodwyd yn yr aü ddosparth am " Classical Honours " yn yr Arholiad Cy- hoeddus yn 1858. 0 aehos afiechyd trwm lluddiwyd ef i geisio "Honours" yn yr Arholiad Cyhoeddus olaf, a graddiodd yn B.A. yn 1860, gan dderbyn ei M.A. yn ddiweddarach. Dechreuodd ei yrfa Offeiriadol yn 1861, gan gael ei urddo yn Ddiacon gan Esgob Tý Ddewi, a'i drwyddedu i Guradiaeth Llanwrda, tra yr oedd ar yr un pryd yn Athraw yng Ngholeg Llanymddyfri. Sym- mudodd yn 1862 i Esgobaeth Llanelwy, er mwyn cynnorthwyo ei dad yn Llan- gollen. O herwydd afiechyd ei dad syrth- iodd gofal y plwyf ar ei ysgwyddau ef, ac yn ystod yr amser hwn llwyddodd i ad- gyweirio Eglwys y plwyf ar y draul o £3,000. Yn 1866 dyrchafwyd ef i Ficer- iaeth Aberdâr, lle y bu yn llafurio yn llwyddiannus, nes ei bennodi yn 1869, gan Esgob Caer, i fywioliaeth bwysig Caernar- fon. Yma enwogodd ei hun trwy ei ddi- wydrwydd, a'i lafur, ac ar farwolaeth Deon Vincent, etholwyd ef gan Esgob Bangor i eisfceddle Deon Bangor. Cymmerodd Deon Edwards ran bwysig yn Amddiffyniad yr Eglwys, ac y mae ei Ddarlith mewn attebiad i Meistri Dale a Rogers ar " Safle yr Eglwys Oenedlaeth- ol" wedi cyrhaedd cylchrediad dros 20,000. Cyfranodd hefyd nid ychydig at Lenyddiaeth Cymru—dan ei olygiad ef y cychwynodd " AmddiflPynydd yr Eglwys," ac efe yw awdwr " Cymru dan felldith Babel," " The Victorious Life," ac amryw ysgrifeniadau eraill. Y mae iddo hefyd safle uchel y'mhlith y rhai sydd o blaid addysg, a phob Ueshad i'w genedl, pa un ai ysprydol, moesol, ai tymmorol. Trwy ei ddylanwad ef deallwn fod Cymdeithas lewyrchus wedi ei sefydlu yn Esgobaeth Bangor i gynnorthwyo dyn- ion ieuainc yn eu parottoad i'r Weinidog- aeth.