Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BUGEILYDD. Cyf. I. Rhif. 10. AWST, 1881. Peis 2g. ENWOGION YR EGLWYS GYMREIG. Yr Hybarcli John Evans, M.A., Archddiacon Meirionydd, a Chanon Trigiannol yn Eglwys Gadeiriol Bangor; a Pheriglor Llanllechid. (GioeUr >/ darlnn ar y ddalen gogyfer.J 11 "" AB ydyw'r Archddiacon i'r diweddar John Evans, Ysw., a brawd i Owen Evans, Ysw., Broom Hall, Sir Gaer- narfon, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1815. Derbyniodd ei addysg elfenol yn Ysgol Rammadegol Beanmaris, Sir Fôn, ac oddi- yno yr ymsymmudodd i Goleg y Drindod, Dulyn (DublinJ, prif ddinas yr Iwerddon, lle yr ennilloedd y gradd o B.A. yn 1841, ac M.A. yn 18G2. Dechreuodd ei yrfa Offeiriadol ym mhlwyf Llanbedr-y-Cenin yn 1841, gan gael ei urddo yn Ddiacon gan Esgob Bangor (Dr. Bethel), ac yn Offeiriad yn 1842, gan yr un Esgob. Yn fuan y dyrchafwyd ef i Guradiaeth Barhaus Pen- trevoeîas, ac yn ystod ei arosiad yma adeiladwyd Eglwys newydd. Yn 1857 appwyntiwyd ef gan Esgob Bangor yn Beriglor plwyf Machynlleth, o ba le y symmudwyd ef drachefn yn 18G2 i blwyf poblog Llanllechid, gerllaw Bangor, ac yn 186G gwnaed ef yn Archddiacon Meir- ionydd a Chanon trigiannol yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Y mae'r Archddiacon, y'nglyn â'r Deon ac eraill, yn cymmeryd dyddordeb mawr ym mhob symmudiad er lleshad yr Eglwys yn yr Esgobaeth. I'w lafur diwyd ef rhaid priodoli cyflwr llwyddiannus a boddhaol " Cymdeithas Lledaeniad yr Egiwys " (Ghurch Extension Society) yn Esgobaeth Bangor. Am un mlynedd ar ddeg mae'r Gymdeithas hon wedi cael ei nawdd a'i ofal pryderus. Ai' yr ocln- arall mae Eglwys Llanllecliid, gydâ'i chynnulleidfa orlawn o chwarelwyr, yn dwyn tystiolaeth uchel iawn i'w lafur a'i ddylanwad, fel Offeiriad plwyfol. Cymmer yr Archddiacon ddyddordeb mawr hefyd yng ngherddoriaeth y cyssegr, gan fod ei blwyf yn enwog am gerddoriaeth, a chyfrifir Côr yr Eglwys yn un o'r rhai goreu yng Nghymru.