Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A UL. Cîffra (íítfrfyÄít. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIB DUW YN UCHAF." RHIF. 168. RHAGFYE, 1870. Cyf. 14. ENWOGION YE EGLWYS. YR ARCHESGOB USSHER. .PENNOD II. Er bod y Gwyddelod gwladaidd yn an- nysgedig eu hunain, y maent yn wastad yn edrych gyda pharch ar ddyn dysgedig, ac maent yn parhau felly hyd y dydd hwn. Ysgrifenodd Ussher draethawd tua'r amser yma ar "Grefydd Hynafol y Gwydd- elod," yn yr hwn y profodd fod Cristionog- aeth foreuol yr Eglwys Wyddelig yn hollol wahanol i Eglwys Rhufain, a'i bod yn cytuno â'r prif athrawiaethau sydd yn cael eu dysgu yn yr Eglwys Brotestanaidd. Mae y prif hanesyddwyr yn addef y ffaith hon; ond mae Sant Bernard a Thonias More, a'r diweddar Macauley, yn gwadu hyn. Ennynodd y traethawd galluog hwn däigofaint yr arwr Celtaidd Philip O'Sul- livan Bear, yr hwn oedd yn disgyn o deulu Gwyddelig, a'r hwn oedd un amser yn gyfoethog; collasant eu cyfoeth yn amser y rhyfel yn nheyrnasiad Elisabeth. Ym- neillduodd y dyn hwn i'r Yspaen, a daeth yn awdwr: cyhoeddodd hanesyr "Eglwys Gatholig." Dywedodd Ussher mai efe oedd y celwyddwr mwyaf o fewn Cred. Atebodd O'Sulliyan ef mewn cyfrol, yn cynnwys naw p bennodau ar Ussher yn unig. Yr oedd y dyn hwn yn ysgrifenu mewn tymmer arswydus, ac nid oedd un enw yn rhy gas ganddci alw ei wrthwy- nebydd. Nid oedd yn un syndod i Matthew Kelly, un o broffesẃyr Maynooth, ddweyd pan yn adolygu ei waith, ei fod yn dangos Uawer mwy o ddigllonedd nag o arabedd. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf y bu Ussher ym Meath, ysgrifenodd ateb i un Malone, Iesuitiad o Goleg Louvain, yr hwn oedd yn ceisio profi purdeb yr Eglwys Babaidd oddi wrth ei hynafiaeth. Dy wedir fod yr ateb yn golofn goffadwriaethol o 45—xiv. alluoedd a dysgeidiaeth Ussher. Cyhoedd- wyd y gwaith tua deng mlynedd ar hugain yn ol yng Nghaergrawnt. Yn 1624, cafodd Ussher ei ddyrchafu i archesgobaeth Armagh. Yn fuän ar ol hyn bu farw Iago y Cyntaf; ond parhaodd Siarl y Cyntaf yn gyfaill iddo; rhoddodd 400p. allan o'r Drysorfa Wyddelig iddo fel cydnabyddiaeth am y gwasanaeth oedd ef wedi wneyd i'w dad. Cymmerodd dadl arall le rhyngddo a'r Tad Beaumont, Iesuitiad, a chaplan i Ar- glwydd cyntaf Peterboro. Yr oedd yr iarll yn Babydd penboeth; ond yr oedd yr arglwyddes yn Brotestant. Cydsyniodd Ussher i ddadleu y pwnc ym mhalas yr iarll. Cariwyd hi ym mlaen am dri diwrnod; ond ar y pedwerydd dydd yr oedd y Iesuitiad yn eisieu; dywedodd wrth ymadael ei fod wedi anghofio ei wrth- ddadleuon. Bu hyn yn foddion i droi yr iarll oddi wrth Babyddiaeth, a bu fyw a marw yn Brotestant selog. Bu y teulu hwn yn noddwyr i Ussher yn ei adfyd wedi hyny. Yr oedd Lloegr yr amser yma mewn rhyfel â Ffrainc ar Hispaen; yr oedd yr olaf am wneyd rhuthrgyrch ar yr Iwerddon; ond yr oedd y Llywodraeth yn analluog i gyfodi dynion i'w hamddiffyn. Y rhaglaw y pryd hwnw oedd Arglwydd FalWand. Cynnaliwyd cyfarfod yn Nulyn, a chynnygiwyd fod i'r Pabyddion gael eu rhyddhau oddi wrth y cyfreithiau penyd^ awl, ar y telerau fod iddynt gyfranu at godi gwŷr i amddiffyn y wlad. Dychryn- odd hyn Ussher i raddau: safodd ef a deuddeg o esgobion yn erbyn y cynllun; a gorfu ar y Llywodraeth roddi ffordd. Gellir meddwl fod Ussher yn ymddwyn