Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. "yng ngwyneb haul a llygad goleuni." "a gaír duw yn uchap." Rhip. 170. CHWEFROR, 1871. Cyp. 15. ANSICRWYDD AMSER DYDD Y FARN DDIWEDDAF. Mae yr Ysgrythyrau yn son llawer am ddyfodiad dydd mawr y farn ddi- weddaf; ac y mae rhai ymadroddion ynddynt yn darlunio'r dydd ofuadwy nwnw megys yn agos wrth y drysau. Ond ar ol deunaw can mlynedd o amser, nid oes, yng ngolwg rheswm a chyfrifiadau dynol, un math o debygolrwydd fod y dydd hwnw yn agos; i'n llygaid ni, nid oes dim argoel o'i ddyfodiad; ac y mae rhai yn blino yn dysgwyl; ac y mae ereill yn digaloni yn dysgwyl; tra mae ereill yn rhyw ddirgel gredu nad oes dydd y farn i fod, ac mai math o ddammegion y mae yr Ysgrythyr yn eu llefaru am dano. Yr oedd ein Harglwydd Iesu yn dywedyd y deuai Efe yn niwedd y byd hwn i farnu byw a meirw, pan yr ysgerid yr efrau oddi wrth y gwenith, ac y didolid y defaid oddi wrth y geifr; a phan y telid i bob dyn yn ol ei eiriau a'i weithredoedd; ac mai ei eiriau Ef ei Hun a'n barnai ni; ac y caffai y cyíiawnion adgyfodi o farwol fedd y dydd hwnw i ogon- iant tragwyddol, a'r anghyfiawnion i warth a dirmyg tragwyddol. Ond mae dydd y farn heb ddyfod eto. Mae yr Apostol Sant Pedr, yn y drydedd bennod o'i ail epistol, yn dywedyd y deuai yn y dyddiau di- 6—xv. weddaf watwarwyr (yn yr Eglwys ei hun, mae yn debygol), yn dywedyd, "Pa le y mae addewid ei ddyfodiad Ef ì canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oedd- ynt o ddechreu y greadigaeth." Ni a allwn ddychymmygu fod y cyfryw watwarwyr yn dywedyd wrth- ynt eu hunain, ac yn llefaru wrth eu cyfeillion, rywbeth yn debyg i hyn:— "Pa beth sydd wedi dyfod o addewid yr Arglwydd Iesu, ei fod Ef yn dyfod ar frys, a'i wobr gydag Ef, i farnu'r byd yn y dydd diweddaf? Nid ydym ni yn canfod mo'r arwydd lleiaf fod yr addewid hon yn debyg o gael ei chyflawnu; canys er pan hunodd y tadau (sef yr hen batriarch- iaid ag y mae genym o houynt restr yn y bummed bennod o Genesis, Ue mae hanes am eu hoedran a'u marw- olaeth), er pan hunodd yr hen dadau gynt, yr ydym ni yn gweled pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreu- ad y greadigaeth: mae'r haul yn codi, mae'r haul yn machludo, megys yn yr amser hwnw; mae'r lleuad yn newid ac yn Uanw; mae'r môr yn llanw ac yu treio; mae gauaf yn dilyn haf, ac y mae haf yn dilyn gauaf; mae amser hau ac amser medi yn myned ac yn dychwelyd bob yn ail yn olynol gyda'r rheoleidd-dra