Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R HAÜL. • €ì\îxm ŵrfijrÄtt. ■ YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 186. MEHEFIN, 1872. Cyf. 16. DYRNAID 0 YD AR Y DDAIAR YM MHEN Y MYNYDDOEDD. Mae'r ddeuddegfed salm a thrigain gan mwyaf yn brophwydoliaeth am lwyddiant teyrnas y Gwaredwr. Mae yr unfed adnod ar bymtheg o'r salm yn cynnwys y geiriau hyn: " Bydd dyrnaid o yd ar y ddaiar ym mhen y mynyddoedd." Amlwg yw fod y geiriau yn eiriau cyffelybiaethol. Ac ond i ni ystyried y gyffelybiaeth gwelir fod ei harwyddocâd rywbeth fel y canlyn:— Mae gwlad Canaan yn llawn o fynyddoedd. Mae llawer o honynt yn fynyddoedd creigiog, clogwynog, a serth. Ond mae y rhan fwyaf o honynt yn fynyddoedd crynion, o uatur moelydd. Yn yr hen oesoedd gynt, yr oedd y mynyddoedd olaf hyn, sef moelydd Palestina, yn cael eu diwyllio a'u hamaethu, lawer o honynt,' i fyny eu Jlethrau hyd eu copaoedd uchaf; ac fo fyddid yn defnyddio llawer dyfais gan yr am- aethwyr i rwystro i'r pridd gael ei olchi ymaith i'r gwaelodion isod gan guriad y gwlawogydda'r llifddyfroedd. Ond yn yr oesoedd presennol, mae'r mynyddoedd hyn oll, oddi gerth Carmel a Thabor, a dau neu dri ereill, agos yn llwyr noethlwm a chreigiog, o herwydd gormes anfad y Llywodraeth Fahometaidd yno yn 26—xvi. gwneuthur y deiliaid, o blegid absen- noldeb rhyddid a diogelwch medd- iannau, yn esgeulus yng nghylch cadw'r pridd rhag llithro i lawr y llethrau a'r ystlysau i ganlyn llifeir- iant y gwlawogydd. ' Mae'r terraces ag a fyddai gynt yn cadw'r pridd rnegys o risyn i risyn rhag llithro i lawr, wedi chwalu er ys oesoedd, er fod eu holion a'u gweddillion i'w gweled y dydd heddyw, fel grisiau trofaog, y naill yn uwch na'r llall, o waelod y mynyddoedd hyd eu penau uchaf; y grisiau fel hyn yn amgylchu y mynydd o'i gwmpas, o amgylch ogylch, y uaill risyn goruwch y llall. Ond yn amser y Salmydd yr oedd y terraces grisiaog hyu yn cael en had- piladu, a'u cadw i fyny yn ofalus, er mwyn ennill ychwaneg o'r mynydd i fod dan ddiwylliad a thriniaeth amaethyddol. Ac fel hyn yr oedd y mynydd i gyd o'r diwedd yn dyfod dan goleddiad yr amaethwr a'r gwin- llanydd; ambell fynydd yn cael ei blanu fel hyn i gyd â gwinwydd, ac ambell fynydd i gyd dan wenith neu ryw rawn arall o'r gwaelod i fyny yn grwn o'i gwmpas i gyd. Ac yn y dull cynnyddol hwn ar driniaeth a diwylliant, yr oedd yd cnwd cynauaf y llawr a'r gwastadedd yn ennill ei