Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R H A U L. dfòjfrîí (ímtfi|iìŵni. "YNG ngwyneb haul a llygad goleuni. "a gair duw yn uchap." Rhip. 188. AWST, 1872. Cyp. 16. TYWALLT Y GALON. 0 bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron Ef." — Salm lxii. 8. Mae'r ymadrodd hwn yn un o'r ymadròddion mwyaf tarawiadol yn yr holl Ysgrythyrau. Ac ef allai mai nid anfuddiol fyddai ymhelaethu ychydig arno mewn ffordd o esboniad ar ansawdd crefydd brofiadol y Crist- ion cywir, ar wahân oddi wrth ben- boethni ac enthusiasm afresymol mewn crefydd. Ymddengys fod yn angenrheidiol i ui dywallt y galon ger bron yr Hollalluog mewnín' o bethau nodedig. Mewn cyíîes ac edifeirwch; mewn gweddi; mewn clodforedd. I. Ty wallt y galon mewn edifeirwch a chyffes, sef mewn cyffes edifeiriol o'n pechodau. Mae hyn, sylwer, yn cwbl gytuno â'r hyn a ddywedir yn yr Anerchiad yn nechreu y Gwas- anaeth Dwyfol fore a phrydnawn. Yn yr Anerchiad hwnw fe'n hannogir ni i " gydnabod ac i gyfFesu ein haml bechodau a'n hanwiredd, ac na wnelom wa'w cuddio ncüu celu yng ngŵydd yr Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, eithr eu cyffesu â gostyngedig, isel, edifarus, ac ufudd galon." Yr ydym yn gweled y dylem eu cyffesu hwynt i gyd oll, heb na chuddio na chelu yr un o houynt. A chyn y gallom fel hyn eu cyffesu yn onest ac yn gyflawn 36—xvi. ger bron ac yng ngŵydd llygaid hollbresennoldeb y Goruchaf, rhaid i ni ým mlaenaf edifarhau yn onest ac yn ddwys am danynt oll, a bod yn ddrwg gan ein calonau dros ein cam-weithredoedd hyn (fel y dywedwn yng Ngwasanaeth y Oymmun), y rhai o ddydd i ddydd yn orthrymaf a wnaethom yn erbyu ei Ddwyfol Fawredd, y rhai y mae eu coffa yn drwm genym, a'u baich yn anodtief- adwy. Mae y Gyffes hon yng Ngwas- anaeth y Cymmun yn un o'r esamplau cryfaf a all byth fod o dywalltiad y galon ger bron yr Arglwydd mewn edifeirwch. Mae'r Prophwyd Hosea yn ein dysgu ni i erfyn ar yr Arglwydd faddeu i ni yr holl anwiredd. Ond nis gallwn yn iawn wueuthur hyn heb dywallt y galon mewu edifeirwch am yr holl anwiredd hyn. ac heb dywallt y galon mewn cyfíès o'r holl anwiredd iddo ac wrtho Ef yn ein gweddîau. II. Tywallt y galon ger bron yr Arglwydd mewn gweddi. Dyma, mewn gair byr. ydyw sylwedd gweddi wirioneddol. Beth ywgweddi? Ty- wallt y galon ger bron Duw, fel y bydd dyn yn tywallt ei galon wrth