Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. 295 Y Dryslwyn u yn uchel a ddyrcha eì big, Â'r castell adfeiliog a saif ar ei f'rig; Os gynt bu yn noddfa rhag gelyn a'i frad, Yn awr mae'n faluriog a drylliog dan dra'd. Fan yma yn ymyl mae Pen yr Allt Fawr Yn codi i fyny yn dalsyth fel cawiy Ac fel pe'n dyweyd wrth y bryniau bob tu, " Myfi yw eich brenin—israddol y'ch chwi." Yn sydyn! ymwylltia'r gerbydres ger llaw, A'r tewfwg o'r simnai'n golofnau a ddaw; Yn chwimmwth hi deithia trwy'r dyftryn ym mla'n, A buan ymgilia—diflana yn lân. Wrth droed Allt-y-Fyrddin mae siriol amaetli- dy,12 Fel pe yn ymguddio wrtli gefn y bryn, Yn hwn cyfanneddai yr enwog dduwinydd Sy heddyw yn ddystaw ym mhriddell y glyn, Sef Dafis,13 wr enwog—pregethwr tra medrus, A phur efengylwr o ddewis y Nef; Fel athraw13 ac ieithydd yr oedd yn dra hynod, A gwych ysgrifenydd13 yn ddiau oedd ef. Kyw 'chydig oddi yno saif palas Bryn Myrddin Yn hawddgar ei olwg ar lechwedd y bryn, Lle triga gwladgarwr u o burwaed y Brython— Gwladgarwr diffuant—'does ammheu am hyn: Ac obry'n y gwastad mae'r Palas Esgobol, Fel megys yn llechu rhwng talgoed bob tu; Mae hwn er ys oesau yn sedd i ddysgeidiaeth— Cartrefle esgobion—enwogion o fri. Hen feddlan y meirw ganfyddir yn ymyl, Lle cwsg y marwolion yn isel eu pen, A'r Eglwys hynafol 'n y canol yn sefÿll, A'i thŵr yn dyrchafu yn hirgul i'r nen: Rhwng muriau'r gyssegrfa mae heddy w'n malurio Weddillion gwr enwoglä—gwas ffyddlawn i'r Ior, Ei waith a fawrygir, a'i enw arogla, Tra pery y Tywi i ymarllwys i'r môr. Tra dyddan yw'r olwg sydd ar Abergwili, A saif yn gyfagos, a'i agwedd yn hardcl, Y muriau gwyngalchog edrychant yn siriol— Golygfa wir swynol, adfywiol i fardd: A'r Gwili wrth ochr y pentref ymlithra, 'Rol gyrfa derfÿsglyd rhwng clogwyn a chraig: Yn awr hi ymbwylla, â'r Tywi ymuno, A theithiant mewn undeb i fynwes yr aig. Draw ar y bryn, uwch law y pant, Canfýddir Llan hen Gwnwr Sant— Dymunol fan, uwch dwndwr byd, Lle huna tadau'r plwyf yng nghyd; Y gwreng o'r bonedd yno sydd Heb un gwahaniaeth yn y pridd; Yn gydradd ydynt oll yn awr Yn cysgu cwsg yr hirnos fawr: Bhwng'cul welyau'r "tawel lu," Y du-gangenog yw y sy Yn eofn godi eu penau i'r lan, Fel cawri cryf i wylio'r fan. Tu hwnt i'r Llan ryw 'chydig o latheni, Saif y Ty Gwyn, yn agos iawn i'r Tywi, Lle trigai'r enwog Steeíe16 o uchel achau, Y llenor gwých, ac awdwr amryw lyfrau. Yn isel obry, fel yng ngho'l y Dyffryn, Mae enwog ac hynafol dref Caerfyrddin: Y bryniau sydd bob tu fel yn ei gWylio, A'r Tywi ylch ei thraed wrth fyiied heibio. Pensam orwedda'n dawel yn y gwastad, Lle dienyddiwyd llawer Hofrudcl anfad. Tu hwnt i'r dref, Ehyd Gors a'r Ystrad welir, A'r Castell Moel, yn is i lawr, ganfÿddir. Dwy gadarn long y sydd yn nofio obry, A phrydferth ynt yn wir wrth dd'od i fyny; Gwir dlos yw'r ddwy wrth ddilyn llwybrau'r afon, A'r hwyliau oll ar led o flaen 'r awelon. Wrth godi y Uygad ychydig i fyny, Fe genfydd yn union hen í'ynydd y Frenni:17 A draw yn y gorwel mae traethell Cefn Sidan, A chyda hyn hefÿd, hen GASTELL, LLANSTEI'HAN. Hoff Gastell Llanstephan, ci ddrylliog f'agwyrydd Dry'r meddwl yn ol at yr oesau a fu, Pan ruthrai'r gelynìon, mewn digter dieflig, Fry ato yn ftyrnig yn lluoedd heb ri'; Dych'mygaf, trwy'r nifwl a'r t'wyllwch mawr dudew, Am erchyll ruthriadau wnaed arno mewn brad Gan wancus estroniaid; ymladdai ein tadau Yn hyf a dewrgalon, er cadw eu gwlad. Fe glywwyd o'i ddeutu swn erchyll yr arfau, Fe welwyd rhyfelwyr yn lluoedd mewn gwaed; Bu yno oernadu, a thyngu, a rhegu, » A sathru y milwyr yn garnedd dan draed: Bu yno Normaniaid, Fflemingiaid, a Seison, Yn lluoedd unedig i'w dynu i'r llawr; Eai gweithiau gorchfýgent—malurient y muriau, Ond amlaf fe'u curwyd, a'r lladdfa oedd fawr. Ond heddyw 'does yno na dadwrdd na brwydro, Na chleciad cleddyfau, nac ochain, na chri: Yn Ile twrf' yr arfau, ac oergri rhyfelwyr, Ni clywir yn awr ond yr awel â'i si, Yn gymmysg â brefiad y ddaf'ad a'r oenig— Rhyw ryfedd newidiad a ddaeth idd y bryn: Wrth wel'd f'ath dawelwch sy'n awr yn teyrnasu, Fy nghalon sy'n Uawen wrth feddwl am hyn. Yr huan at y gorwel draw sy'n nesu, A'm gorchwyl syddar ben—'rwyf yn dystewi. GwiLYM MYRDDIN. Caerfyrddin. NODAU. 1 Banau Sir Gaer, neu y Mynyddoedd Duon, sef rhes o fynyddoedd ag sydd yn ymestyn o gymmydogaeth Llandeilo hyd sir Fynwy, gan derfynu yr ochr isaf i Grug Hywel. Ehedant am ryw bellder yn gyfochrog â Mynyddoedd Eppynt. 2 Y Gellir Aur. 3 Sef yr Esgob Jeremy Taylor, D.D., yr hwn a ffodd yma am noddfa yn amser y Ehyí'el Car- tref'ol dan deyrnasiad Siarls I. Derbyniwyd ef yn garedig gan Eobert Vaughan, Iarll Carberry. Tra yn aros yn y Gellir Áur, ysgrifenodd yr esgob amryw lyf'rau gwerthfawr—y Golden Grove, Ruìe and Exercise of Hoìy Liwing, &c. 4 Pan oedd y llywydd enwog Cromwel ar ei ffordd i gymmeryd Castell Penfro, gyda myntai o feirch-filwyr, daeth i'r Gelli Aur gyda'r amcan i ymosod ar Iarll Carberry, yr hwn oedd yn bleidiol i'rhrenin: ond yr oedd yr Iarll yn ym- guddio mewn ft'ermdy cyfagos. Gwedi ciniawa gyda'r Iarlles, ymadawodd Cromwel am sir Benf'ro.— Carlisle.