Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

174 YR HAÜL. y soniasom am dani eisoes i wneyd y Methodistiaid nid yn frawdoliaeth neu yn blaid yn yr Eglwys, ond yu sect ymneillduol. Yn y flwyddyn 1758 yr urddwyd Mr. Joues, yr hwn oedd frodor o Lanllieni. ar lan yr afon Teifi, yn sir Gaerfyrddiu, a thrwyddedwyd ef i guradiaeth Llan- afan Fawr, yn sir Frycheiniog. Wedi hyny gwasanaethodd blwyf yn Arfon, ac oddi yno symmudodd i Laufeddin ym Mynwy, ac i Gaerodor a swydd Wilts wedi hyny. Yno daeth i sylw yr Iarlles haelfrydig o Huntingdon, a thrwy ei dylanwad hi y cafodd o law ei chyfeilles grefyddol, yr Ar- glwyddes Charlotte Edwin. fywoliaeth Llangan, yn esgobaeth Llandaf, a daliodd y berigloriaeth hòno hyd ei farwolaeth. Dywedir ei fod yn uu o'r pregethwyr mwyaf dengar a thoddiadol yn ei oes, a rhaid bod rhyw wahaniaeth mawr yn ei ddull rhagor Howel Harris, o blegid yr oedd hyawdledd Dafydd Jones o Langan yn difFrwytho breichiau ac yn lladd gelyniaeth ei erlidwyr wrth ei wraudaw.1 Wyr iddo ef yw y Dr Llewelyn. Deon Ty Ddewi, Prif- athraw Coleçj Sant Dewi. Llanhedr. 1753-1784. Un arall o gyfeill ion crefyddol a chydlafurwyr D Jones o Langan oedd y Parch Christopher Bassett, curad yr enwog W. Romaine. persuu Sant Aun's. Blackfriars. Llundain. Oddi yno symmudodd i guradiaethSant Ffagan. Caerdyf; a Phorthceri wedi hyny. Pan oedd gorfoledd wedi tori allan yn Llandyrnog Dyffryn Clwyd, dan bresíethiad Jones o Langan, neu Rowlauds o Laugeitho. dywedir bod Christopher Bassett, offeiriad o For- 1 Adroddir hanesyn hynod o'r fath am effaith ei bregeth yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, pan ddaeth rayntai o laslanciau Ysgol Rhuthin, a llebanod y dref mewn diwyg dyeithrol, a'u gwynebau wedi eu pardduo, dan arweiniad cigydd ymladdgar i ymosod arno. Wedi gwrando dros ychydig fynydau, modd bynag. tyngodd y cigydd yn enw'r Diafol y mynai chwareu teg iddo bregethu. ganwg, yn neidio ac yn moli Duw. Bu farw ym mlodau ei ddyddiau. 1722—1796. ün o'r clerigwyr mwyaf galluog a dysgedig o'r frawd- oliaeth Fethodistaidd oedd Peter Williams. Yr oedd yn ddyn a aned i fliuder mwy ua chyffredin. Yr oedd ei fryd er yn blentyn ar fod yn offeiriad, ond wedi derbyn urddiad ymlidid ef gan ryw bethau anwy- bodus ac anfoddog o'r naill guradiaeth i'r lla.ll yu ddiymaros; ac wedi troi yn bregethwr Methodistaidd teithiol, dyoddefodd erlidigaeth chwerw y dyrfa fochaidd o annnwiolion. yn enwedig yu ei grwydriadau yng Ngog- ledd Cymru; ac yn niwedd ei oes cafodd ei dori ymaith oddi wrth y Methodistiaid ar gyhuddiad o Sabel- iaeth, canys felly y deonglent ei sylwadau ar y bennod gyntaf o Efenííyl Sant Ioan yn ei Feibl mawr teuluaidd. Gwuaed cais ofer i alw i fyny a dinystrio y rhifyn hwuw o'r gwaith. Fel hytì y cythryblwyd y frawdoliaeth dros agos i ugain mlyn- edd, ac y bu ar fiu ymrwygo yn ddwyhlaid ysy;aredig. Wedi i Peter Williams wasanaethu y gymdeithas Fethoiiistaidd gyda ffyddlondeb a medr mawr dros bedair blynedd a dengain. ciciwyd ef allan o holl bulpndau y Corff. Fel hyn y mae yn dygwydd yn rhy aml, mai y dyuion a wrthryfelaut yn erbyn aw- durdod a geir yn fwyaf tra-arglwydd- iaethgar eu hnnain. 1749—1826. Un arall o'r offeir- iaid Methodistaidd oedd William Jones. person Llaududoch dros han- ner can mlynedd. Yr oedd yn bregethwr galluog a phohlogaidd iawn. a thorfëydd lawer yn ymgasgln i'w wrando yn Eglwys ei blwyf, ac ar led yr holl wlad Ond yn 1811, pan ymneillduodd y Methodistiaid, ac yr ymtíorfforasant yn enwad Anghyd- ffurfiol ciliodd Mr. Joues oddi wrth- ynt o*r dydd hwuw allan. 1756—1834. Nid oedd er hyny neb o hleidwyr boreu Methodistiaeth yu fwy hyuod ei hyawdledd a'í