Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(íîjfhs (tofyrlẁiit. YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI.' "A GAIE DUW YN UCHAP." Rhif. 303. MAWRTH, 1882. Cyf. 26. DWYFOLDEB Y BEIBL. Weth burdeb neu ddwyfoldeb y Beibl yr ydym i ddeall yr uniondeb yug nghyd â'r anwadalwch ag sydd yn cydredeg yn ddigyfrwng trwy yr holl Ysgrythyr. Mae y gair dwyfoldeb yn tarddu oddi ar dduwdod y Duw anweledig; ac nis gallai dwyfoldeb fodoli heb Dduw. Mae dwyfoldeb y Beibl yn sylfaenedig ar dduwdod, a duwdod y Tri Pherson sydd yn profi ei ddwyfoldeb, a phan y collwn ein golwg ar dduwdod y Personau dwyfol, fe dry dwyfoldeb y Beibl yn ddynoldeb, y mae dwyfol a dynol y naill yn gyferbyniol i'r lla.Il. Cawn olwg ar ddwyfol- deb Duw yug nghreadigaeth y byd. Pa fodd y mae dwyfoldeb Duw yn ddadguddiedig yng nghreadigaeth y byd 1 0 blegid nas gallasai dynoldeb ddadguddio na chreu bod na chreadigaeth fydol. Mae sef- yllfa bresennoi y byd yn profi ei ddwyfoldeb. Pe buasai y byd yn ddwyfol buasai y dynol yn colli pob rheolaeth a chrediniaeth; ond y mae i'r gwrthwyneb, y mae y dyuol yn diflanu gan y dwyfol. Os gallwn brofí nad ydyw Duw yn bod, yr ydyin o angenrheidrwydd yn rhwym o gyfaddef nad ydyw y dadguddiad yn ddadguddiad dwyfol; ond os gallwn brofi y bod o Dduw yr ydym o angenrheidrwydd yn rhwym o gyfaddef dwyfoldeb y Dadguddiad. Y mae y greadigaeth ynddi ei hun y tu allan i ddaguddiad yn profi yn ddiysgog fod Duw yn bodoli. Wrth edrych ar y ddynoliaeth ynddi ei hun yr ydym o dan rwymau i gredu fod Duw o blegid yr ymestyniad sydd ynddynt i ym- debygoli iddo; y mae dyn yn gweled ei hun yn ammherffaith, a thrwy hyny yn ymorchestu at y Bod perffeithiaf. Ond tuag at egluro dwyfoldeb y Beibl, yr esboniad goreu ar yr Ys- grythyr ydyw yr Ysgrythyr ei hun; y mae dynoldeb yn rhy wanaidd i ddangos dwyfoldeb. Pa fodd y gall y meidrol amgyffred anfeidroldeb ì Fe haera rhai nad ydyw yr Ysgrythyr yn ddwyfol, ond yn yr un sef- yllfa a ninnau y maent hwythau. Y mae dyn yn rhy eiddil i ddangos dwyfoldeb unrhyw beth y tu allan i ddadguddiad. Mae dyn yn an- nigonol i adnabod dyn y tu allau i ddadguddiad dwyfol, " Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd yn trigo ynddo ef; felly hefyd pethau Duw nid edwyn neb ond Ysbryd Duw." 13—xxvi.