Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1 II Â II L €>mm ẅMîirìtDtiu "YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNl. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhip. 305. MAI, 1882. Cyp. 26. CALAN MAÎ. Yn yr amser gynt nid oedd dim un diwrnod mor nodedig a'r dydd cy'ntaf o fis Mai am wledda a pliob math o gampau. Y eyntaf o Fai yw dydd gwyl Sant Phylip a Sant Iago, y rhai sydd yng nghalendar Eglwys Lloegr. Gelwir y dydd hwn gan y Cymry yu Galan Mai o amser y Rhufeiniaid. Galwaì y Rhufeiniaid y dydd cyntaf o bob mis yn Galanae. Geìwir y dydd cyutaf o lonawr yn Galan Ionawr; cawn hefyd Calan Mai, Galan Gauaf, a Ghalan Hydref Mai laf yw dydd Pawl Mai, neu fel y gelwir ef mewn rhai manau, " Codi'r Fedwen," ac yn y Gogledd, " Cangen Haf." Yr oedd dawns yr haf, neu ddawns y fedwen, yn beth cyffredin yn amser ein hynafiaid. Yr oedd bechgyn a merched ieuaiuc yn arfer gwisgo eu hunain mewn dillad amryliw ar foreu y cyntaf o Fai. Yr oedd y fedwen yu cael ei haddurno yn dlws ag oriaduron, llestri arian, ac ysnodenau sidan. Yr oedd crythor neu delyuor yn bresennol yn wastad. Dywedir mai dechreuad yr arferion hyn oedd gwyl baganaidd i Florelia, duwies y blodau. Yn ol barn hyuafiaethwyr sefydlwyd hi mor fore a 242 o flynyddoedd cyu geui ein Hiachawdwr; a dywedir i Florelia adael ei holl feddiannau i ddinasyddion Rhufain, ar yr ammod fod iddynt wledda a dawnsio a chanu ar y diwruod hwn er cof am dani. Ym mhen amser cafodd ei gwneyd yn dduwies y blodau, ac yr oedd addoliad yn cael ei dalu iddi. Yr oedd y gwyliau chwareuol hyn yn -cael eu dwyu ym mlaen ar draul y diuasoedd a'r corfforiaethau, ac yn y wlad ar draul y plwyfi. Yn 1661 cyhoeddodd Puritan o'r euw Hall bamphled yn gosod Flora ar ei phrawf yn y geiriau hyn: — " Flora, dal dy law i fyny; yr wyt yn cael dy gyhuddo dan yr enw Flora, o ddinas Rhufain, o swydd Babilon, am i ti yn groes i delerau heddwch ein harglwydd a'n peuadur ac urddas y gorou ddwyn i mewn haid o ffanaticiaid, anwybodusion, pabyddion, meddwon, rhegwyr, dawnswyr, ymladdwyr, mwgydwyr, mud-chwareuwyr, lladron, polion Mai, yfwyr iechyd, crythwyr, ffyliaid, hap-chwareuwyr, benywod an- uiwair, dirmygwyr yr ynadon, diraddwyr gweinidogìon, gwrthryfelwyr yn erbyn eu meistri, anufuddion i'w rhieni, camdreulwyr amser," &c. Appelia Flora at y pab a'i breladiaid, yr hwn a ddylai ei phrofi; ond 25—xxvi.