Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. <fòjta €míytàm. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLBUNI." "A GAIE DUW YN UCHAF." Rhifyn 314. CHWEFROE, 1883. Cyf. 27. DIDWYLLEDD. Wrth edrych i mewn i gynnwysiad y testyn fe geir fod ynddo gyfoeth dihyspydd o wirioneddau ac elfenau, y rhai sydd yn anhebgorol angenrheidiol tuag at ddedwyddwch a chysur y ddynoliaeth. Y mae «1 ffynnonell fawr o ba un y mae ffrydiau pur a iachusol yn tarddu allan o honi. Mewn didwylledd y mae gwirionedd yn gynnwysedig, ttiewn geiriau, ac uniondeb, gonestrwydd, cyfiawnder, a chywirdeb ûiewn gweithrediad. Tra y mae yr elfenau gwrthgyferbyniol yn dyfod 1 r golwg mewn anonestrwydd, bradwriaeth, twyll, dichell, celwydd, &c. Fel hyn y gwelwn fod dwy elfen neu ddwy egwyddor yn ddau allu Hywodraethol yn ein byd, y rhai sydd o ran eu hanfod a'u hegwydd- orion yn wrthgyferbyniol ac yn rhyfela yn erbyn eu gilydd yn barhäus. Grellir rhestru didwylledd neu gywirdeb yn y gwreiddyn o hono ym mhlith dyledswyddau dyn tuag ato ei hunan, tra nad ydyw rhagrith a chelwydd ond dinystriad a diddymiad o fonedd dyn. " Mae heddwch cymdeithas," medd Dodsley, " yn ymddibynu ar ddidwylledd a chyfiawnder, a dedwyddwch personau ar fwynhâd diogel o'u holl feddiannau." Y ddau allu gwrthgyferbyniol hyn ydynt y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn eu gilydd yn barhäus, y drwg a'r da, a chawn fod yr elfenau neu egwyddorion y ddwy ochr a nodasom fel byddinoedd mawrion mewn Uawn arfogaeth yn ymosod ac yn gwrthryfela yn barhäus â'u gilydd, * phob un yn ymegnio i ddwyn y llall i ddinystr a llwyr ddifodiad. ^■r y ddwy egwyddor hyn y cawn fod dwy deyrnas wedi eu sylfaenu, a'u ^ywodraethiad yn unol â'u hegwyddorion yn cael eu gweithio allan drwy gynghor ac ewyllys eu penllywodraethwyr, a chawn fod tynged aynolryw yn syrthio o dan faner un o'r ddwy deyrnas. Gwirfoddolwyr brenin y byd hwn: yma cawn olwg ar dywysog llywodraeth yr awyr wedi sylfaenu ei deyrnas ar dwyll a chelwydd, syifaen bwdr a darfodedig ydyw. " Tad y celwydd," y " ddraig," a'r 4l hen ddihenydd," ydynt y teitlau sydd ar eu brenin, ac y maent yn hollol nodweddiadol o'i SyDameriad ac o urddas ei fawrhydi satanaidd. Er hyny fe'i cawn o 7—xxvii.