Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H A UL. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhifyn 315. MAWRTH, 1883. Cyf. 27. CYFIELTHAD A CHYFIEITHWYR Y BEIBL CYMRAEG. PENNOD II.—WILLIAM SALISBURY. Yn ein llythyr diweddaf gwnaethom ychydig sylwadau ar y cyfieith- adau rhanol a boreuol o'r Ysgrythyr Lân; dechreuwn yn awr ar yr hyn a elwir y prif gyfieithadau. Yn y fìwyddyn 1562, sef yn nheyrnasiad Elisabeth, rhoddwyd allan y cyhoeddiad bendigaid canlynol:—" Fod y Beib], yn cynnwys y Testament Newydd a'r Hen, yng nghyd â'r Llyfr Gweddi Gyffredin a Gweithrediadau y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i'r iaith Frytan- aidd neu Gymraeg; fod iddynt gael eu chwilio, eu harolygu, a'u cymmeradwyo gan esgobion Llanelwy, Bangor, Ty Ddewi, Llandaf, a Henffordd; fod iddynt gael eu hargraffu a'u defnyddio yn yr Eglwysi erbyn y laf o Fawrth, 1566, o dan ddirwy, os methid cyflawnu, o 40p. ar bob un o'r esgobion uchod. " Fod un copi argraffedig o leiaf o'r cyfieithad hwn i fod ar gyfer pob Eglwys Gadeiriol, Colegol, a Phlwyfol, a phob capel trwy Gymru, at gael eu darllen gan yr OrFeiriaid, yn amser y Gwasanaeth Dwyfol, ac ar amserau ereill, er budd a defnydd pob un fydd â meddwl ganddo i fyned i fyny i'r Eglwys i'r dyben hwnw. "Fod offeiriaid y wlad hon i ddarllen, hyd oni bydd yr argraífiad hwn o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin wedi ei orphen a'i gyhoeddi, ar amser yr Addoliad Cyhoeddus, yr Epistolau a'r Efengylau, Gweddi yr Arglwydd, Erthyglau y Ffydd Gristionogol, y Litani, a chyfryw ranau ereill o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn yr iaith Gymraeg, yn ol fel y byddo yr esgobion uchod yn cyfarwyddo ac appwyntio. Ac— " Fod, nid yn unig yn y cyfamser, ond dros fyth, Feiblau a Llyfrau Gweddi Gyffredin Seisoneg i'w cael, ac i fod yn arosol, ym mhob Eglwys a Chapel drwy y wlad hòno." Yr ydoedd y gorchymmyn hwn o eiddo y Senedd wedi ei gyflawnu yn rhanol ym mhen o ddeutu pedair blynedd, sef yn y flwyddyn 1567, er y dywedir fod y cyfieithad yn barod ym mhen y flwyddyn ar ol y 13—xxvn.