Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. (Cjffcw ẅrftfrìŵm. " YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNl.' "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhifyn 321. MEDI, 1883. Cyf. 27. YR EGLWYS A'I LLYPR GWEDDL (Parhâcl o cludal. 369.) Au ddiwedd y Gollyngdod ac ar derfyn pob un o'r gweddiau y mae y bobl i ateb Amen. Gair Hebraeg ydyw yn golygu cadarn, sicr, ffyddlawn. Arferir y gair yn fynycb gan ein Harglwydd ar ddecbreu brawddeg, er mwyn argraffu ar galonau ei wrandawyr ddifrifwcb a pbwysigrwydd ei chynnwysiad. " Yn wir, yn wir (a.fjLYjv, apjv), meddaf i chwi." Ar ol gofyniad golyga " Bydded felly." Defhyddid ef yn wastad gan yr Inddewon ar ddiwedd eu hemynau a'u gweddi'au. Yn Salm cvi. y mae y bobl yn benodol yn cael eu hannog i ddywedyd Amen ar ol y salm, "A dyweded yr holl bobl, Amen." Y rabbiniaid a ddysgent eu dysgyblion i ddywedyd Amen ar ol pob math o weddi, fel peth cym- meradwy gan Dduw a llesol i ddyn, gan ei gyffelybu i arwyddnodiad (signature) llythyr neu ddeiseb, pa rai ydynt yn dyfod yn eiddo personol drwy y cyfryw weithred. Dywedir am y Chineaid nad oes ganddynt air a gyfettyb yn hollol i'r gair Amen ; dywedant yn hytrach, " Sin yenen Ghing sing" hyny yw, y mae y galon yn dymuno yn hollol felly. Esboniad prydferth ar y gair, a gwir ystyr Amen y Llyfr Gweddi. Yn amser Ierome, dywedir y byddai y gynnulleidfa Gristionogol mewn gwresogrwydd a hwyl, a'n hadgofia atn floeddiadau cynhyrfus y diwygiadau crefyddol yng Nghymru, yn codi ar flaenau eu traed gan ymgodi megys i'r entrych, ac yn ei gydfloeddio fel taranfollt! Gwyn fyd na rwygid tawedogrwydd addoliad aml i Eglwys glauar gan symbyliad cyffelyb—sercli i wax figures deimlo yn anniddig, i gentility guchio ei gwyneb, ac i ffurfioldeb Phariseaidd ffromi. Amen fel hyn o'r galon a roddai galon yn y gwasanaeth, ac a adenai ei ffordd at yr Hwn sydd â'i enw yn Amen. 49—-xxvii.