Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

tíijto (tofîfrìẁm, "YNG NGWYNBB HAUL A LLYGAD GOLEÜNI.' "A GAIB DUW YN ÜCHAP." Ehipyn 324. EHAGFYR, 1883. Cyp. 27. YR EGLWYS A'I LLYFÜ GWEDDI. (Parhâd o dudalen 443.) Bellach deuir at y rhan hòno o'r gwasanaeth pryd y'gwnaw'n, yn ol trefn hynafol, gyffes gyhoeddus ac adroddiad personol a chynnull- eidfaol o'n ffydd yn yr athrawiaethau ag y mae darlleniad Dadguddiad Duw eisoes wedi eu dwyn i'n sylw yn y rhan flaenorol o'r addoliad. " Yna y cenir neu y dywedir Credo yr Apostolion," &c. Gelwir y gyffes ffydd fer hon yn Gredo oddi wrth y gair cyntaf ynddo yn yr iaith Lladin, megys y gelwir Gweddi yr Arglwydd yn Pater noster. Ceir tri o ffurf-gredoau yn y Llyfr Gweddi, sef Credo yr Apostolion, Athanasius, a Nicea, y rhai, yn ol Erthygl VIII., a " ellir eu profi trwy ddiddadl warantrwydd yr Ysgrythyr Lân," ac o blegid hyny a ddylid yn gwbl eu derbyn a'u credu. Credo yr Apostolion yw y cynaraf, y byraf, a'r symlaf. Ymhelaeth- iad a dadblygiad yw y lleill o hwn er condemnio a gwrthweithio heresiau (yn neillduol eiddo Arius yn y bedwaredd ganrif) a fiinasant yr Eglwys Gatholig yn ei mabandod. Perygledd a heintusrwydd afiachus y cyfeiliornadau hyn a fu yn achos i'r Eglwys wneyd deffiniad mwy manwl o'r ffydd megys y mae yng Nghrist. Ÿ mae gwirioneddau y Beibl yn fiagurol (germinal)—-níaent yn abl dadblygu eu hunain ar gyfer amgylchiadau neillduol trwy gyfrwng athrawiaethau pendant (dogmas). Y mae swm a sylwedd yr hyn sydd yn angenrheidiol ei gredu er mwyn tragwyddol iachawdwriaeth yn cael ei roddi yn yr Efengylau mewn crynodeb cynnwysfawr—mewn math o goncentrated essence—o ba un drachefn y mae credoau yr Eg- lwys wedi ymddyrwyn neu ymdyfu ac ymagor, fel y dderwen o'r fesen neu y dyn o'r plentyn. Symbolum, meddir, ydoedd yr enw wrth ba un y dynodid y Credo yn yr oesoedd boreuaf. Pa bam y gelwid ef y cyfryw sydd ansicr. Wele rai o'r rhesymau a gynnygiri ni— 67—xxvii.